Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 5 Mehefin 2019.
Dywedodd Aneurin Bevan unwaith ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd i bobl sy'n oedi ar ganol y ffordd. Cânt eu taro.
Yn anffodus i fy mhlaid i, dyna'n union a ddigwyddodd yn yr etholiadau Ewropeaidd ddydd Iau diwethaf. Roedd ein methiant i fod yn feiddgar ar fater pwysicaf ein cyfnod yn gadael y drws yn agored i gawdel o fanteiswyr, penboethiaid a thwyllwyr. Un peth a unai'r criw anfad hwnnw oedd y gallu i ddod at ei gilydd o gwmpas un neges ymgyrch yn yr ymdrech i sicrhau buddugoliaeth. Roedd yn wers wleidyddol greulon a ddywedai mai un peth yw bod yn gynnil wrth ddrafftio polisi, ond pan ddaw'n fater o ddrafftio hanes, rhaid inni fod yn feiddgar.
Bydd yr Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod yn iawn beth yw fy marn ar fater Brexit; mae fy safbwynt yn onest ac yn gyson, yn seiliedig yn gyfan gwbl ar fuddiannau fy etholwyr. Ac er fy mod wedi fy siomi'n arw ei bod wedi cymryd y canlyniadau hynny i fy mhlaid newid ein dull o weithredu, nid oes gennyf ddiddordeb mewn dim bellach heblaw cydweithio ar gyfer y dyfodol, nid ailgynnau brwydrau a fu. Nid dyma'r amser i bwyntio bysedd; dyma'r amser i uno ac i frwydro ar ran ein cymunedau yng Nghymru. Mae hon yn foment o argyfwng cenedlaethol ac ni ddylai neb mewn Llywodraeth neu mewn gwrthblaid sy'n credu bod angen inni weithredu i'w wynebu fod yn meddwl am fantais plaid dros fudd cenedlaethol. Oherwydd y peth arall a ddangosodd yr etholiadau Ewropeaidd i ni yw nad oes mwyafrif dros Brexit yng Nghymru na'r DU bellach, ac yn anad dim, nid oes mandad o blaid 'dim bargen'.
Felly, rwy'n croesawu'n gynnes ymrwymiad y Prif Weinidog nid yn unig i frwydro dros ail refferendwm ond i sicrhau y byddwn yn ddiamwys yn ein cefnogaeth dros 'aros' yn yr ymgyrch honno. Nid oes etholiadau uniongyrchol inni boeni amdanynt yn awr, dim enillion gwleidyddol cul i'w cyfrifo, dim ond mynydd i'w ddringo. Yn union fel y gŵyr y rheini ohonoch yn y Siambr pa mor gryf yw fy safbwyntiau wedi bod dros y tair blynedd diwethaf, fe fyddwch yn gwybod hefyd, pan ddaw'n fater o egwyddor, fy mod i, fel cynifer ohonom yma, yn barod i weithio ar draws ffiniau pleidiol. I'r rhai ohonom sy'n credu'n angerddol fod yn rhaid inni fynd yn ôl at y wlad, i'r rhai ohonom sy'n gwybod pa mor niweidiol fydd Brexit i Gymru, mae'n bryd gadael ein lliwiau pleidiol wrth y drws a gweithio gyda'n gilydd ar ymgyrch dros 'lais terfynol'.
Yr wythnos hon dywedwyd bod sector gweithgynhyrchu'r DU wedi crebachu am y tro cyntaf ers mis Gorffennaf 2016, wrth i bentyrru cyflenwadau lacio cyn Brexit. Yn ôl yr ymchwil, roedd cwmnïau'n ei chael hi'n anodd darbwyllo cleientiaid i ymrwymo i gontractau newydd. Rydym eisoes wedi cael gormod o enghreifftiau o gwmnïau nad ydynt bellach yn barod i wynebu'r risg o'r hyn y gallai Brexit ei olygu iddynt hwy. Roedd busnesau'n dal i ddisgwyl i wleidyddion wneud y gorau o sefyllfa wael. Hyd yma, nid ydym ond wedi gwneud pethau'n waeth—rhaid i hynny newid. Ac fel pe bai angen rhagor o gliwiau arnom ynglŷn â'r hyn y gallai ein dyfodol ôl-Brexit fod, gwelsom hwy'n eglur iawn gydag ymweliad Arlywydd yr UDA yr wythnos hon. Fel y dywedodd Sadiq Khan, mae Donald Trump yma nid yn unig i ledaenu ei safbwyntiau atgas a thrydar geiriau sarhaus plentynnaidd, mae yma oherwydd ei fod am gael cytundeb masnach ôl-Brexit gyda Phrydain a fyddai'n ein gorfodi i gytuno i unrhyw beth y mae am ei gael. Byddai'n golygu trosglwyddo ein GIG annwyl i gwmnïau gofal iechyd preifat yr UDA a rhoi'r gorau i ddiogelwch bwyd—