Part of the debate – Senedd Cymru am 4:53 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch i'r Aelod am ddweud hynny. O leiaf ni chefais fy ngalw'n ymwelydd ganddi. Y gwir amdani yw bod pobl wedi penderfynu. Pleidleisiasant mewn refferendwm. Pleidleisiasant 52 i 48 y cant ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ychydig yn fwy yng Nghymru, a llawer mwy yn ein rhanbarth ni. Ond mae hi'n credu mai hi sy'n gwybod orau. Mae hi eisiau eu hanwybyddu. Ac addawodd ei phlaid dderbyn canlyniad y refferendwm hwnnw, yn union fel yr addawodd Llafur ei dderbyn. Nawr, efallai fod Plaid wedi newid ei safbwynt ychydig yn gynharach ac ychydig yn fwy cadarn na Llafur, ond mae Llafur bellach wedi dal i fyny ac maent yn yr un lle eto fel sefydliad 'aros'.
Nawr, yn ôl pan gawsom y Papur Gwyn ar y cyd y maent bob amser yn cyfeirio ato fel pe baent wedi bod â pholisi cyson—nid oedd yn dweud dim am refferendwm. Ceisiodd gyflwyno math o fersiwn o Brexit mewn enw'n unig, ond nid oedd yn dweud, 'Os na wnewch hyn, rhaid i ni wneud i chi bleidleisio eto.' Na, roeddent yn dal i honni eu bod yn derbyn canlyniad y refferendwm, fel y gwnaeth y Blaid Lafur o leiaf yn yr etholiad cyffredinol yn 2017. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad ydynt yn ei dderbyn. Maent yn meddwl eu bod—[Torri ar draws.] Na. Diolch. Maent yn meddwl eu bod yn gwybod yn well na'r bobl yr honnant eu bod yn eu cynrychioli, a dywedant yn awr y dylai fod yn refferendwm cadarnhau. Wrth gwrs, arferai fod yn 'ail refferendwm' ond mae'n debyg nad oedd hynny'n apelio llawer felly fe wnaethant ei alw'n 'bleidlais y bobl', ond roedd hynny mor amlwg yn chwerthinllyd nes eu bod bellach wedi symud ymlaen i 'refferendwm cadarnhau'. Mae'n swnio'n hawdd iawn, onid yw? Tebyg i, gadewch inni gadarnhau'r hyn a benderfynasom—dim mwy na hynny. Ond wrth gwrs, nid y bwriad yw cadarnhau'r refferendwm, y bwriad yw ei wrthdroi. A phan ddywed, 'O, bydd pobl yn gallu ymgyrchu—bydd yna ddewis'—a dweud y gwir, o edrych ar gynnig Plaid Cymru, mae'n ymddangos ei fod yn ddewis rhwng aros yn yr Undeb Ewropeaidd a pha gytundeb Brexit mewn enw'n unig bynnag a negodir i'w roi yn ei erbyn—yr hyn a ddisgrifiais ychydig flynyddoedd yn ôl wrth David Cameron fel 'refferendwm i mewn-i mewn'. Ond mae pobl Cymru, pobl y Deyrnas Unedig, wedi pleidleisio dros adael. Felly, dyna pam, yn ein gwelliant ni, ein bod yn dileu cynnig Plaid Cymru a'n bod yn cydnabod yn gyntaf ei bod hi'n dair blynedd ers i bobl Cymru bleidleisio. A phrin fu'r symud, os o gwbl, tuag at gyflawni'r canlyniadau. Ond wrth gwrs, dyna yw bwriad cynifer yn y Cynulliad hwn, yn union fel gyda chynifer yn San Steffan. Maent yn gobeithio, drwy chwarae am amser, gadael i amser fynd yn ei flaen, y gallant ddweud wedyn, 'O, digwyddodd hyn amser maith yn ôl; gallwn ei anwybyddu yn awr.' Dyna yw eu strategaeth.
Nawr, mewn refferendwm, lle gwariodd yr ochr 'aros' lawer iawn mwy na'r ochr 'gadael', gadewch inni beidio ag anghofio, dosbarthodd y Llywodraeth daflen, llyfryn—£9 miliwn; daeth ychydig yn ddiweddarach inni oherwydd ein hetholiadau i'r Cynulliad—a ddywedai y byddent yn gweithredu'r canlyniad: yr hyn rydych chi y bobl yn ei benderfynu, bydd y Llywodraeth yn gweithredu'r canlyniad. Ond y gwir yw nad yw'r Llywodraeth wedi gweithredu'r canlyniad. Nawr, efallai fod rhai Ceidwadwyr yn edifar am hynny; mae eraill wedi'i fwriadu. Ac rwy'n tybio y gallai'r Prif Weinidog presennol, sy'n gadael diolch byth, fod yn y categori hwnnw. Nawr, mae eraill yn cystadlu am y swydd honno—mae rhai ohonynt o leiaf yn dweud eu bod yn mynd i adael ar 31 Hydref. Mae eraill yn dweud na wnânt hynny; efallai y gwnânt erbyn diwedd 2020. Efallai na wnânt byth mo hynny. Felly, mae Boris Johnson yn dweud y bydd yn gadael ar 31 Hydref, gyda neu heb gytundeb, ond dywedodd Theresa May hynny 100 o weithiau a mwy. Dyna'r sefyllfa y pleidleisiodd 550 o Aelodau Seneddol drosti pan gyflwynasant erthygl 50, ac eto mae cynifer ohonynt bellach yn ceisio gwrthdroi'r canlyniad hwnnw.
Felly, galwn ar Brif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig i gyflawni dymuniadau'r bobl a gadael yr UE erbyn 31 Hydref 2019, a dim hwyrach na hynny. Hynny yw, er mwyn parchu democratiaeth, rhaid inni sicrhau yn ein gwlad fod y bobl sy'n parchu democratiaeth yn trechu'r rhai sy'n dymuno atal Brexit a gwadu democratiaeth.