Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 5 Mehefin 2019.
Wel, wrth gwrs, roeddwn i'n un o'r rhai fu'n ymgyrchu dros aros, ond pan wnaethom golli, fe dderbyniais y canlyniad. Roeddwn i, ar y pryd, yn gweithio i elusen gwaith ieuenctid a phrofais yn uniongyrchol ofid a dicter llawer iawn o bobl ifanc ynglŷn â'r canlyniad. Bryd hynny, buom yn gweithio gyda hwy, yn eu cynghori i dderbyn, ceisio ymdrin â'u trallod emosiynol a gweithio i ddylanwadu ar natur yr hyn y gallai Brexit ei olygu—er enghraifft, cadw lle'r DU yn y rhaglen Erasmus sydd wedi bod mor bwysig.
Nid yn aml iawn yn y lle hwn y byddaf yn cyfaddef fy naïfrwydd, Lywydd, ond rhaid i mi ddweud fy mod wedi credu bod yna gynllun. Nawr, o ystyried y bobl a oedd yn dadlau dros Brexit, dylwn fod wedi gwybod yn well, oherwydd yn amlwg nid oedd cynllun yn bodoli. Cymerais yn ganiataol y byddai'r bobl a oedd am i hyn ddigwydd yn gwybod beth oedd ei natur, ac mae fy nghyd-Aelod Llyr Gruffydd newydd ddweud wrthym am y nonsens Brexit amryliw a gawsom byth ers hynny. Felly, dderbyniais ganlyniad y refferendwm oherwydd fy mod yn credu, mewn egwyddor, mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud, ond roeddwn yn meddwl erbyn hyn—[Torri ar draws.] Ac os gwelwch yn dda, a gaf fi ddweud hyn? Rwy'n ddigon bodlon derbyn ymyriadau, ond rwy'n ei chael hi'n anodd siarad yn iawn pan fydd pobl yn gwneud sylwadau o'r llawr. Felly, os oes unrhyw Aelod sy'n anghytuno â mi neu'n wir yn cytuno â mi yn dymuno ymyrryd, rwy'n agored iawn i hynny, ond os gwelwch yn dda, dylem drin ein gilydd â pharch yn y lle hwn, felly gadewch inni wrando ar ein gilydd, hyd yn oed pan fyddwn yn anghytuno.
Felly, roeddwn yn barod i'w dderbyn, gan gymryd yn ganiataol y byddai rhyw fath o gynllun yn bodoli, y byddai pethau y gallem eu rhoi ar waith efallai i liniaru rhai o'r effeithiau gwaethaf, a thair blynedd yn ddiweddarach, mae popeth yn gwbl wahanol. Nid oes cynllun, neu mae ystod eang o wahanol gynlluniau, ac mae cyd-Aelodau eraill eisoes wedi tynnu sylw at rai o'r canlyniadau sydd wedi dod i'r amlwg.
Nawr, mae cyd-Aelodau yma wedi dweud nad ydym yn gwybod pam fod pobl wedi pleidleisio fel y gwnaethant. Wel, nid yw hynny'n wir mewn gwirionedd. Cafwyd ymchwil academaidd helaeth a ymchwiliai i'r rheswm pam y pleidleisiodd pobl 'ie' a'r rheswm pam y pleidleisiodd pobl 'na', a gwyddom, fel y dywedodd cyd-Aelodau eraill, fod y neges rymus honno am adfer rheolaeth yn un a oedd, yn ddealladwy iawn, yn taro deuddeg gyda phobl weithiau mewn cymunedau a deimlai fod eu bywydau allan o reolaeth. Wrth gwrs, mae'r hyn a welsom ers hynny'n gwbl groes i unrhyw fath o reolaeth, gyda'r bobl sy'n dadlau dros Brexit yn methu dweud wrthym sut beth ddylai Brexit fod a heb baratoi, efallai, ar gyfer bod yn onest. Ac mae llawer o gyd-Aelodau, fel y dywedais, wedi tynnu sylw at y peryglon enfawr posibl a'r bygythiad presennol sydd wedi dod i'r amlwg eto yr wythnos hon i'n gwasanaeth iechyd—yr hyn a gynigiwyd fel y fargen euraid. Un yn unig o ddwsinau ar ddwsinau o enghreifftiau y gallem gyfeirio atynt yw'r cytundeb masnach gyda'r GIG.
Felly, gwyddom fod gan bobl resymau da dros bleidleisio fel y gwnaethant, a gwyddom hefyd, gan fod gwaith ymchwil helaeth yn mynd rhagddo, fod llawer ohonynt wedi newid eu meddyliau. Un grŵp o'r boblogaeth sydd heb newid ei feddwl yw pobl ifanc. Dair blynedd yn ôl, pleidleisiodd 71 y cant o bobl ifanc rhwng 18 a 24 oed dros aros a 29 y cant dros adael. Nawr, eu dyfodol hwy ydyw—ni fydd llawer ohonom ni yma i weld canlyniadau hirdymor Brexit 'dim bargen' yn enwedig, ond eu dyfodol hwy sydd yn y fantol.
Rwy'n credu heddiw o bob diwrnod ei bod hefyd yn bwysig iawn cofio'r grŵp arall o'r boblogaeth a bleidleisiodd yn unfrydol o blaid aros, sef ein cyd-ddinasyddion a oedd yn cofio'r ail ryfel byd, a gofiai ddechrau'r Gymuned Ewropeaidd—beth bynnag yw ei beiau, ac rwy'n sicr nad oes yr un ohonom yma'n credu bod y sefydliad fel y mae yn berffaith—ond fe safodd y genhedlaeth honno, cenhedlaeth ein rhieni a wyddai beth oedd rhyfel, gyda'r bobl ifanc a phleidleisio 70 y cant i 30 y cant yn fras dros aros. Nawr—