Part of the debate – Senedd Cymru am 5:38 pm ar 5 Mehefin 2019.
Oherwydd bod yr amgylchiadau wedi newid, a byddaf yn datblygu'r ddadl honno mewn munud, os caf.
Gall Mark Reckless sefyll yn y Siambr hon a gall ddadlau mai pleidlais dros adael o dan unrhyw amgylchiadau oedd hi. Gall gyflwyno achos dros hynny ar sail y canlyniad yn 2016, er na ddadleuodd neb hynny yn 2016, ond gall ddefnyddio'r dystiolaeth honno i gyflwyno achos. Yn yr un modd, rwyf o'r farn mai pleidlais dros adael yr UE ydoedd, ond nid oedd ganddi ddim i'w ddweud ar y farchnad sengl a'r undeb tollau nad yw'r naill na'r llall yn galw am fod yn aelod o'r UE, ac nid oedd yn bleidlais i adael yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd ac Euratom chwaith yn fy marn i. Gallaf gyflwyno achos dros hynny. Gadael yr UE a dim byd arall oedd hyn. Ni allwn ein dau fod yn iawn.
Gwyddom fod pobl wedi cael cynnig Brexit eithaf caled yn 2017 a'u bod wedi gwrthod ei gefnogi. Gwelsom yr hyn a wnaeth Theresa May. Gwelsom y penawdau yn y papur a oedd yn dweud y byddai hyn yn ymgais i drechu'r sabotwyr, sydd i bob golwg yn dal heb eu trechu. Bythefnos yn ôl, gwyddom fod 32 y cant o bobl wedi cefnogi plaid a oedd yn ddiamwys, a bod yn deg, ynglŷn ag ymrwymo i gytundeb sefydliad masnach y byd. Nid yw hynny'n fwyafrif o blaid gadael yr UE heb gytundeb. Nid democratiaeth mo hynny. Nid yw'r rhifau'n ddigon.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi clywed hyn gynifer o weithiau am 'y sefydliad'. Wel, gadewch imi ddweud wrth y rhai sy'n honni fy mod i ac eraill yn rhan o'r sefydliad, fy mod i'n ŵyr, yn or-ŵyr ac yn nai i lowyr. Fi yw'r arweinydd Llywodraeth cyntaf yn y DU i ddod o ysgol gyfun. Nid euthum i Eton, nid euthum i ysgol breifat ac ni wneuthum erioed gamblo ar brisiau metel yn y ddinas. Roedd gennyf swydd go iawn, ac yna deuthum i'r lle hwn a pharhau gyda'r profiad a gefais fel cyfreithiwr.
Y gyfatebiaeth a ddefnyddir yn aml i ddisgrifio Brexit yw ymyl clogwyn. Wel, dywedwyd wrth bobl y gallent neidio oddi ar ymyl clogwyn, ond y byddai barcud hedfan yno i'w helpu, ac y byddai'n codi'n uchel i'r awyr—dim byd i'w ofni. 'Peidiwch â phoeni', dywedwyd wrthynt, 'bydd yr UE yn gwneud yn siŵr fod y barcud hedfan yno ac os na fydd, bydd gweithgynhyrchwyr ceir yr Almaen yn gwneud yn siŵr fod y barcud hedfan yno.' Ond erbyn hyn mae'r bobl wedi dod i ymyl y clogwyn ac nid oes barcud hedfan yno. 'Peidiwch â phoeni', dywedir wrthynt, 'gallwch neidio i ffwrdd, bydd yn iawn, peidiwch â chredu'r bobl sy'n dweud wrthych y bydd disgyrchiant yn peri i chi blymio—rhan o brosiect ofn yw hynny. A pheidiwch â phoeni beth bynnag, oherwydd bydd yr UDA yn dod â pharasiwt, efallai pan fyddwch wrthi'n disgyn, ond dim ond os rhowch eich crys iddynt.'
Mae'n bryd datrys hyn unwaith ac am byth; tair blynedd o ddadlau di-ddiwedd. Mae Prydain yn gyff gwawd. Nid yr UE a ddisgynnodd yn ddarnau oherwydd Brexit; Prydain sy'n gwneud hynny. Mae'r Llywodraeth yn Llundain wedi ei pharlysu. Nid oes dim yn digwydd yno. Ni chymerodd neb sylw o gwbl o'r hyn a ddigwyddodd gyda Dur Prydain; mae'r cyfan yn ymwneud â Brexit, mae'n eu llyncu'n llwyr. Mae swyddi'n cael eu colli. Does bosibl nad yw pobl Prydain yn haeddu ystyried a ydynt am neidio gyda neu heb y barcud hedfan, neu a ddylent neidio o gwbl.
I mi, mae hynny'n golygu bod yn rhaid inni ystyried refferendwm arall. A gadewch i ni beidio ag esgus pe bai'r canlyniad wedi mynd y ffordd arall na fyddai Nigel Farage dros y tair blynedd diwethaf wedi bod yn swnian am ail refferendwm am fod y gyntaf mor agos. Roedd tudalen flaen un o'r papurau newydd yn Llundain yn barod ar gyfer pleidlais o blaid aros, gyda'r pennawd yn awgrymu bod pleidleisiau wedi'u rhwbio allan ar bapurau pleidleisio. The Sun oedd hwnnw, ac yna, wrth gwrs, newidiodd popeth. Felly, peidiwn â thwyllo ein hunain y byddai'r cyfan rywsut wedi'i ddatrys yn 2016 pe bai wedi bod yn bleidlais dros aros.
Felly, sut ar wyneb y ddaear y gallwn ei ddatrys? Wel, i mi, mae'n fater o gynnal refferendwm dau gwestiwn. Cwestiwn un: yng ngoleuni'r amgylchiadau presennol, a ddylem aros neu adael? Mae'n gwestiwn teg. Cwestiwn dau: gadael gyda chytundeb neu heb gytundeb? Wedi'i ddatrys. Rydych yn gofyn y ddau gwestiwn, fe gewch ateb y naill ffordd neu'r llall. Os bydd pobl yn pleidleisio dros adael heb gytundeb, wel, mae llawer ohonom yn y Siambr na fyddem yn cytuno â hynny, ond mae'r penderfyniad wedi'i wneud, ni ellir dadlau yn ei gylch. Dyna fe. Nid oes cwestiwn yn ei gylch. A bydd hynny'n rhoi eglurder inni. Ni allwch herwgipio pleidlais 2016 a rhoi'r dehongliad mwyaf eithafol posibl iddi, yn enwedig o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn 2017 ac wrth gwrs, yr hyn a ddigwyddodd bythefnos yn ôl pan nad oedd dwy ran o dair o'r rhai a bleidleisiodd yn cefnogi cytundeb Sefydliad Masnach y Byd.
Gwyddom y bydd refferendwm o'r fath yn rhoi eglurder inni. Roedd dau gwestiwn yn refferendwm yr Alban yn 1997, ond ceir marc cwestiwn difrifol—rwy'n dirwyn i ben, Lywydd—nid yn unig am les economaidd y DU, ond ynglŷn ag a fydd y DU ei hun yn dal i fodoli. Byddai'n sicr yn eithafol o eironig pe bai'r rheini sy'n dymuno i'r DU adael heb gytundeb yn dod yn benseiri tranc y DU ei hun. Mae ein gwleidyddiaeth wedi'i gwenwyno. Mae ein cymdeithas yn rhanedig. Mae angen inni ddatrys hyn. Roedd gan y bobl lais yn 2016. Maent yn haeddu llais yn awr. O ran synnwyr a rhesymeg, mewn democratiaeth, mae'r bobl yn haeddu'r gair olaf.