Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 5 Mehefin 2019.
Gŵyr y Siambr hon, wrth gwrs, nad canlyniad y refferendwm yn 2016 oedd yr hyn yr oeddem am ei weld. Ond rydym wedi bod yn gyson wrth geisio dod o hyd i ffordd o gyflawni'r canlyniad hwnnw a gwneud y gorau dros Gymru yn y broses. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, roeddem yn cydnabod y rhaniadau dwfn ac yn ceisio adeiladu consensws, ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, roeddem yn cydnabod hefyd o'r dechrau na fyddai unrhyw fath o Brexit yn ddi-boen neu y byddai'n diogelu holl fuddion economaidd aelodaeth o'r UE.
Yn 'Diogelu Dyfodol Cymru'—yn wahanol i'r Ceidwadwyr, yn wahanol i gefnogwyr Brexit—fe wnaethom sefydlu ffordd o sicrhau na fyddai gadael yr UE yn tanseilio diogelwch swyddi pobl ac economi Cymru mewn modd eithafol, gan geisio cyflawni canlyniad y refferendwm ar yr un pryd. Ac mae 'Diogelu Dyfodol Cymru' yn dangos ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd, yn hytrach na dim ond adleisio ymagwedd ein cymheiriaid Llafur yn y Senedd o bosibl. Ac roedd y Papur Gwyn hwnnw, a gyhoeddwyd bron ddwy flynedd a hanner yn ôl, yn lasbrint manwl ar gyfer y ffordd ymlaen. Aeth ymhellach o lawer na'n cymheiriaid yn y Senedd i egluro'r cyfaddawdu a fyddai'n angenrheidiol, ac nid oes dim yn rhyfedd yn hynny, gan ein bod yn blaid mewn Llywodraeth yma nid gwrthblaid, a Llywodraeth sy'n rhoi blaenoriaeth i fuddiannau pobl Cymru.
Nawr, unwaith eto, rydym yn diffinio ein ffordd ymlaen ein hunain drwy ei gwneud yn glir, ar ôl tair blynedd a wastraffwyd, ei bod yn bryd gwneud achos unwaith eto dros aros yn yr UE. Ar ôl y tair blynedd hynny, yn anffodus, nid oes consensws yn y Senedd ac mewn gwlad sy'n dal i fod mor rhanedig. Ni fydd etholiad arweinyddiaeth y Ceidwadwyr yn cynnig unrhyw atebion. Oni roddir camau ar waith, fel y dywedodd Lynne Neagle, mae'n anochel o arwain at un canlyniad costus yn unig: Brexit caled neu 'ddim bargen' trychinebus, o'r math a hyrwyddwyd mor gywilyddus gan Mark Reckless a Darren Millar yn y Siambr dros yr ychydig ddyddiau diwethaf yn enwedig. Ni allwn ac ni fyddwn yn gadael i hynny ddigwydd.
Ydy, mae ein safbwynt wedi datblygu ac nid ydym yn ymddiheuro am hynny. Mae Prif Weinidog y DU wedi dangos y niwed y gellir ei wneud drwy lynu at linellau coch a'i geiriau bachog. Rhaid inni weithredu ar sail y gwirioneddau sy'n ein hwynebu. Awgrymodd yr etholiad Ewropeaidd nad yw'r math o Brexit meddal a argymhellwyd gennym yn denu cefnogaeth eang. Mae'n dod yn fwyfwy amlwg mai'r dewis sy'n wynebu'r wlad hon yw'r un rhwng Brexit caled ac 'aros'. Ni allwn ymddiried bywoliaeth ein dinasyddion yn y dyfodol i grŵp o gefnogwyr Brexit caled yn y Blaid Geidwadol.
Felly, rydym yn dweud yn glir yn awr, unwaith eto, y byddwn yn ymgyrchu'n ddi-baid dros aros ac mae angen seneddwyr o bob plaid i gydnabod mai'r unig ffordd ymlaen yw deddfu ar gyfer refferendwm arall. Dylai Llywodraeth y DU fod yn rhoi'r camau angenrheidiol ar waith i baratoi ar gyfer refferendwm arall yn awr, gan ddrafftio'r ddeddfwriaeth berthnasol, ymgynghori â'r Comisiwn Etholiadol a gofyn am gytundeb i estyniad arall i broses erthygl 50. Dyna pam yn fwyaf diweddar pan gyfarfûm â'r Ysgrifennydd dros Brexit yng Nghaerdydd ar 16 Mai y gofynnais iddo'n uniongyrchol pa baratoadau y mae Llywodraeth y DU yn eu gwneud. Yr ateb, i bob pwrpas, oedd dim. Felly, mae angen i'r Senedd achub y blaen. Ni allwn ganiatáu i ragor o amser gael ei wastraffu.
Felly, gadewch i mi fod yn glir: rydym yn cefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad. Dylai unrhyw gytundeb y bydd unrhyw Lywodraeth yn ei gyflwyno fod yn ddarostyngedig i refferendwm. Ond rydym hefyd yn credu nad yw refferendwm dair blynedd yn ôl ar gynnig y byddai'r Llywodraeth yn ei chael yn hawdd trafod Brexit cyfeillgar yn rhoi mandad—fel y dywedodd Carwyn Jones ei hun yn yr araith—i ganiatáu i 'ddim bargen' trychinebus ddigwydd. Eto i gyd, dyna'r dewis diofyn o hyd. Dyna pam ein bod wedi cynnig gwelliant i ailadrodd safbwynt sefydledig y Cynulliad hwn, a diolch i Delyth Jewell, yn ei haraith, am ei chefnogaeth ar ran Plaid Cymru i'r gwelliant hwnnw. Er hynny, Lywydd, er mwyn ystyried y gwelliant yn ffurfiol ar lawr y Siambr, rydym yn cydnabod i bob pwrpas y byddai angen inni wrthwynebu neu ymatal ar y cynnig ei hun, ac nid ydym yn barod i wneud hynny. Mae'n hanfodol fod y Cynulliad yn rhoi datganiad clir o'r safbwynt hwn, ac felly byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd, er y bydd yn golygu bod ein gwelliant yn methu, ond rwy'n hyderus fod gan y Siambr hon fwyafrif o hyd i gefnogi'r egwyddorion a nodir yn y gwelliant hwnnw.
Mae dau welliant arall wedi'u cyflwyno i'r ddadl heddiw. Yn syml iawn, mae'r gwelliant cyntaf gan Caroline Jones yn methu cydnabod cymhlethdodau ymadawiad y DU o'r Undeb Ewropeaidd mewn unrhyw ffordd a'r effaith hynod o niweidiol a gaiff senario 'dim bargen'. Byddwn yn ei wrthwynebu. Rhaid gwrthwynebu'r ail welliant a gyflwynwyd gan Darren Millar hefyd. Rydym i gyd yn cydnabod canlyniad y refferendwm. Mae'n fater o ffaith. Ond mae'r rhaniad sydd y tu ôl iddo ar draws Cymru a'r DU yn real, ac mae angen agwedd fwy meddylgar a mwy cyfrifol tuag at y realiti hwnnw.
Rhaid inni beidio â llaesu dwylo. Mae bygythiad 'dim bargen' yn real iawn. Nid yw ethol arweinydd Ceidwadol newydd ond yn cynyddu'r risg honno. Mae'r amser wedi dod i roi penderfyniad terfynol yn ôl i'r bobl ac i atal y wlad rhag llithro i sefyllfa ddiofyn 'dim bargen' na wnaeth neb achos drosti yn 2016 ac nad oes mandad ar ei chyfer.