Part of the debate – Senedd Cymru am 5:52 pm ar 5 Mehefin 2019.
Canolbwyntiodd llawer o'r ddadl honno yn 2016 ar y ffyniant a oedd ar ei ffordd i'r GIG, GIG a fyddai'n debygol, yn eironig, o gael ei werthu pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, fel mae'n digwydd. Ond pan nad oedd yn canolbwyntio ar hynny, fe'i canmolwyd fel ffordd o adfer rheolaeth. Buaswn yn dadlau na fyddai ffordd well o adfer rheolaeth na thrwy sicrhau'r holl ffordd drwy'r ddadl hon ar ein haelodaeth o'r UE, mai'r etholwyr sy'n penderfynu'r canlyniad, a—