Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 5 Mehefin 2019.
Rwy'n falch eich bod wedi rhoi'r wybodaeth honno. Rwy'n credu y dylai pob un ohonom fod yn bryderus iawn am y dystiolaeth, ac mae digon ohoni, fod y ddadl Brexit yn un o ddau beth: naill ai'n gyrru cynnydd y dde eithafol neu'n symptom ohono. Ac yn sicr, rwyf wedi gweld rhywfaint o'r gamdriniaeth y mae'r Aelod dros y Rhondda wedi'i hwynebu, mae'n gywilyddus ac rwy'n ei gondemnio. A da o beth fyddai clywed eraill yn condemnio'r gamdriniaeth honno yn hytrach na chondemnio Leanne Wood.
Rwy'n credu mai'r etholwyr a ddylai benderfynu'r canlyniad. Ac fel y soniais sawl gwaith yma, mae'r etholwyr yn awr yn cynnwys y cannoedd o filoedd o bobl ifanc sydd wedi cael eu pen blwydd yn 18 oed ers y refferendwm, gan gynnwys un ferch i mi, fel mae'n digwydd. Nid oedd ganddynt lais bryd hynny, ac fe ddylai fod ganddynt lais yn awr. Eu dyfodol hwy yn fwy na neb sydd yn y fantol. A gadewch i'r bobl benderfynu—yr etholwyr, nid ystrywiau Stryd Downing, nid ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol, nid Johnson, Rees-Mogg, Farage, ond y bobl. Sut y gallai'r awydd i fod mor ddemocrataidd ag y gallwn danseilio democratiaeth fel y mae rhai'n ei awgrymu—i fod mor gyfoes ac mor gyfredol ag y gallwn fod wrth fesur barn y cyhoedd?
Pe bai pobl wedi cael cynnig gweledigaeth glir ynglŷn â beth oedd y dewis amgen yn lle aelodaeth o'r UE, beth yn union oedd Brexit yn ei olygu cyn y refferendwm, ni fyddem yn y sefyllfa hon yn awr. Soniodd Llyr am y gwaith a wnaed i fraenaru'r tir ar gyfer y refferendwm ar annibyniaeth yr Alban. Ond ni chafodd y gwaith paratoi hwnnw ei wneud cyn y refferendwm hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU dderbyn y cyfrifoldeb am ruthro'r refferendwm gwleidyddol hwnnw—sef yr hyn ydoedd—drwodd ac rydym i gyd, ar y ddwy ochr i'r ddadl, yn medi'r hyn a heuwyd bryd hynny. Gallwn weld, ar y ddwy ochr i'r ddadl, mai camgymeriad oedd rhuthro i sbarduno erthygl 50 heb fapio'r llwybrau, ac rwy'n falch fod fy nghyd-aelodau o'r blaid yn San Steffan wedi pleidleisio dros beidio â gwneud hynny. Nid oeddem yn barod. Gall pawb ohonom, ar y ddwy ochr i'r ddadl, gytuno bod sefydliad y DU wedi bod yn hynod gyfeiliornus yn y modd y mae wedi camdrafod yr holl fater hwn.
Felly heddiw, rwy'n hyderus y byddwn yn pleidleisio i ddatgan cefnogaeth ddiamwys y Cynulliad hwn i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog i'r DU adael yr UE arnynt, gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Mae asesiad Plaid Cymru'n glir: mae'r Aelod a etholwyd ar ran UKIP yn ne-ddwyrain Cymru yn dweud bod Plaid Cymru wedi newid ei meddwl rywsut ar Brexit—cyfeiriodd at y ffaith ein bod wedi cyd-ysgrifennu'r Papur Gwyn 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Rydym bob amser wedi bod yn ymrwymedig i'r farn mai'r ffordd orau ymlaen i ni yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Yr hyn y mae'r gwaith ar y Papur Gwyn a'n pleidlais ar bleidleisiau mynegol yn San Steffan, er enghraifft, wedi'i ddangos yw ein bod wedi bod yn gyfrifol ers y refferendwm a'n bod wedi mabwysiadu'r safbwynt, os oes yn rhaid inni adael—nid ydym am wneud hynny—os oes rhaid inni adael, gadewch i ni o leiaf geisio lliniaru, gadewch inni o leiaf geisio meddwl 'Beth sydd o fudd i Gymru?' a chyflwyno'r achos dros yr hyn sydd orau i Gymru. Cawsom ein hanwybyddu, ac ar ôl llanastr y tair blynedd diwethaf, ydy, mae ein hasesiad yn parhau'n glir y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd—ein hasesiad ni—yn niweidiol i Gymru—yn ddrwg i ffermio, fel y trafododd Llyr; yn ddrwg i bobl ifanc, fel y clywsom gan Helen; i'r GIG; i'r economi. Rwy'n falch o sefyll ochr yn ochr â phobl eraill ar draws y pleidiau gwleidyddol yma yn y Cynulliad Cenedlaethol sy'n rhannu'r asesiad hwnnw. Ni fydd pawb yn cytuno â'r asesiad hwnnw, ond apêl yr hyn y galwn amdano heddiw yw nad ewyllys Plaid Cymru y dymunwn ei weld yn cael ei ddilyn, ond ewyllys y bobl heddiw. Gadewch i ni roi'r gair olaf i'r bobl, nid i ni, a gadael i'r bobl roi eu hasesiad o'r hyn sydd wedi digwydd ers Mehefin 2016. Mae ein dyfodol a dyfodol ein plant yn y fantol.