Part of the debate – Senedd Cymru am 6:52 pm ar 5 Mehefin 2019.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi ymateb i'r ddadl, a gaf fi ddweud y gallai Aelodau fod wedi gweld newyddion yn ystod y ddadl hon ynglŷn â dyfodol ffatri geir Ford Pen-y-bont ar Ogwr? Dyfalu pur ydyw ar hyn o bryd, ac nid yw Ford yn gwneud sylwadau am y mater. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau fy mod wedi bod mewn cysylltiad rheolaidd â'r Prif Weinidog heddiw. Rwyf hefyd wedi siarad ag Ysgrifennydd Cyffredinol Unite, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, Greg Clark, a hefyd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, ac rwy'n gofyn am drafodaethau brys gyda Ford. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater cyn gynted ag y bydd gennyf ragor o fanylion.
Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddechrau fy ymateb i'r ddadl hon drwy ddiolch yn ddiffuant i'r Aelodau am eu cyfraniadau rhagorol yn y ddadl? Hoffwn ddiolch yn benodol i'r rhai a gyflwynodd y cynnig pwysig hwn heddiw. Rwy'n falch o allu cael y cyfle i ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Mae'n deg dweud, pan siaradwn yn y Siambr am y pethau sy'n bwysig i'n cymunedau—creu swyddi, pwysigrwydd gwaith teg, a grybwyllwyd gan gynifer heddiw, yr angen am addysg o safon uchel neu adeiladu tai o ansawdd da—yr hyn a ddywedwn mewn gwirionedd, boed yn glir ai peidio, yw ein bod am i bawb gael cyfle i fyw bywyd llawn, bywyd yn rhydd o'r hualau a'r cyfyngiadau y mae tlodi'n eu creu. Ac fel rhywun a fagwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru yn fab i weithiwr dur, ac a fagwyd mewn cymuned ddosbarth gweithiol ac a fynychodd ysgolion y wladwriaeth, dileu tlodi oedd yr union reswm pam y dechreuais i mewn i gwleidyddiaeth etholedig. Mae wedi llywio popeth a wneuthum ym mhob un o'r rolau gweinidogol y bu'n fraint gennyf eu cyflawni—yr awydd i atal tynged plentyn rhag cael ei bennu gan yr hyn y cawsant eu geni iddo.
Rwy'n credu bod y rôl sydd gennyf yn awr yn arbennig o bwysig yn hyn o beth. Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth sy'n codi i ymateb i'r ddadl hon heddiw gan mai'r rôl honno sy'n crynhoi dull gweithredu Llywodraeth Cymru o frwydro yn erbyn tlodi. Sef, mai dim ond drwy economi gref, wydn a deinamig y gall pawb ym mhob rhan o Gymru elwa, ac yn ei dro, bydd gwneud hynny'n gallu helpu i ddileu tlodi. Mae ein cynllun gweithredu economaidd wedi'i lunio i'r diben penodol hwnnw.
Ddirprwy Lywydd, wrth inni edrych yn ôl dros 20 mlynedd o ddatganoli, rwy'n falch o'r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud dros yr amser hwnnw i gefnogi unigolion a theuluoedd sy'n gweld bod tlodi'n cyfyngu ar eu bywydau. Rydym wedi datblygu model blaengar o gymorth i bobl yng Nghymru ac wedi ychwanegu ato a'i wella dros gyfnod datganoli. Mae'n canolbwyntio ar y pethau bach, y pethau bara menyn, sydd wedi dangos mewn ffordd hynod ymarferol fod pryderon teuluoedd sy'n gweithio yn bryderon go iawn. Cyflog cymdeithasol ydyw, sy'n cynnwys presgripsiynau am ddim, y lwfans cynhaliaeth addysg, nofio am ddim, y tocyn bws am ddim, cynllun maeth gwyliau ysgol y mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn ei ehangu, ac wrth gwrs y prydau ysgol am ddim yr ydym yn gwario £7 miliwn yn fwy arnynt eleni na'r llynedd. I rai teuluoedd yng Nghymru, gall y cyflog cymdeithasol hwn fod yn gymaint â £2,000, gan godi pwysau oddi ar gyllidebau cartrefi. Ac mae'r dull hwnnw wedi canolbwyntio ar wneud y defnydd gorau posibl o'r pwerau sydd ar gael i ni yma yn Llywodraeth Cymru yn yr amgylchiadau anoddaf.
Ond ar ôl etholiadau'r Cynulliad 2016, yr hyn a ddaeth yn glir iawn oedd bod angen dull o weithredu arnom, fel Llywodraeth Lafur Cymru, a fyddai'n harneisio'r pŵer a oedd gennym ar draws y Llywodraeth yn fwy effeithiol, ac fel Gweinidog yr economi, roeddwn i mewn sefyllfa effeithiol i arwain y gwaith hwnnw. Fel Gweinidog yr Economi a Seilwaith, roeddwn yn glir iawn fod cymunedau cydnerth ac economïau cydnerth yn cael eu tanategu gan gyflogaeth leol o ansawdd da, seilwaith cysylltiedig, a sgiliau ar gyfer gwaith. Rwy'n hynod falch o'r economi gryfach y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi'i sicrhau dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Erbyn hyn mae 300,000 yn fwy o bobl mewn gwaith yng Nghymru ers 1999, ac mae cyfran y bobl o oedran gweithio heb unrhyw gymwysterau wedi mwy na haneru. Yn fwyaf calonogol efallai, mae'r cyfraddau anweithgarwch economaidd yng Nghymru bellach yn cymharu'n fras neu'n is na chyfartaledd y DU am y tro cyntaf erioed.
Ond wrth gwrs, rydym yn cydnabod y bydd y pum mlynedd nesaf yn creu heriau enfawr i'n cymunedau. Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd ac effaith lawn diwygio lles yn cael ei ddwysáu gan gyflymder cynyddol newid technolegol a'i effaith ar waith a'r farchnad lafur. Bydd defnyddio'r holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael inni i sicrhau bod cymunedau a'r unigolion sy'n byw ynddynt yn fwy gwydn yn wyneb yr heriau y byddant yn eu hwynebu dros y blynyddoedd nesaf yn allweddol i'n dull o drechu tlodi, a dyna pam ein bod wedi datblygu dull trawslywodraethol o gefnogi economïau tecach a chryfach ar draws pob un o'n rhanbarthau.
Ar gyfer unigolion sydd angen sgiliau ar gyfer gwaith, addewid o raglen gyflogadwyedd newydd sy'n dwyn ynghyd ein rhaglenni presennol mewn un system gymorth wedi'i hadeiladu o amgylch yr unigolyn, a'i theilwra ar gyfer yr unigolyn, ac wedi'i chynllunio'n well i fynd i'r afael ag anweithgarwch. Ar gyfer unigolion sydd eisiau sgiliau uwch, addewid i greu o leiaf 100,000 o brentisiaethau i bob oed. Ar gyfer busnesau sydd am dyfu a chyflogi pobl, contract economaidd newydd i gynyddu'r gwaith teg sydd ar gael a darparu'r math o dwf cynhwysol y soniodd Huw Irranca-Davies am yr angen amdano. Ar gyfer rhieni sy'n gweithio, i blant tair a phedair oed, addewid o 30 awr o ofal plant am ddim, 48 wythnos o'r flwyddyn, i helpu mwy o bobl i ddychwelyd i'r farchnad lafur. Ac ar gyfer cymunedau, buddsoddi mewn seilwaith cryfach a mwy integredig, er mwyn sicrhau bod prosiectau mawr fel y cynlluniau metro'n dod â newidiadau gwirioneddol drawsnewidiol i economïau lleol a chymunedau lleol. Rydym wedi datblygu hyn oherwydd ein bod o'r farn mai hon yw'r strategaeth orau ar gyfer trechu tlodi yng Nghymru yn hirdymor.
Ond Ddirprwy Lywydd, fel y soniodd Rhianon Passmore—[Torri ar draws.] Cewch, yn wir.