Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 11 Mehefin 2019.
Yn olaf, os caf i droi at fater arall, Prif Weinidog, dywedasoch wrth gael eich cyfweld yn ystod eich ymgyrch ar gyfer yr arweinyddiaeth ar 19 Tachwedd y llynedd eich bod chi'n credu ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen mwy o Aelodau Cynulliad arnom i gyflawni'r holl gyfrifoldebau sydd gan y Cynulliad erbyn hyn. Aethoch ymlaen i ddweud nad oes byth amser da i fynd allan a dweud wrth bobl eich bod chi eisiau cynyddu nifer y bobl sy'n cael eu hethol, ond pe byddem ni wedi cymryd y farn honno ym 1999 ni fyddem ni erioed wedi cael y Cynulliad yn y lle cyntaf. Ai dyma eich barn bersonol o hyd, ac os yw hynny'n wir, pam nad oeddech chi'n gallu darbwyllo eich plaid?