Cynyddu Cyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 11 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 3:13, 11 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedwyd eisoes, mae penderfyniad Ford i gau gwaith Pen-y-bont ar Ogwr yn ergyd drom i'm rhanbarth i, lle bu colledion swyddi digynsail dros y degawdau diwethaf. Gan fod ansicrwydd parhaus ynghylch gwaith dur Port Talbot, Tata, mae'n amlwg bod angen gwahanol strategaeth arnom. Mae cynlluniau datblygu economaidd blaenorol wedi methu â gwella'r rhanbarth, er gwaethaf buddsoddi miliynau o bunnau. Prif Weinidog, beth fyddwch chi'n ei wneud yn wahanol i sicrhau bod digon o swyddi sy'n talu cyflogau uchel yng Ngorllewin De Cymru?