Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Mehefin 2019.
Hoffwn ofyn i'r Trefnydd drefnu gyda'r Gweinidog iechyd i gyflwyno datganiad llafar i'r Cynulliad ar y mesurau perfformiad newydd ar gyfer gofal llygaid yng Nghymru. Mae'r mesurau perfformiad, wrth gwrs, i'w croesawu ynddynt eu hunain, ond mae nifer o faterion yn natganiad y Llywodraeth i'r wasg—nid wyf yn ymwybodol fod yna ddatganiad ysgrifenedig hyd yn oed—a chredaf y bydd y Siambr hon yn dymuno craffu ar y Gweinidog ar hyn. Un ohonyn nhw yw'r mater o ran cyllid. Mae pennawd y datganiad i'r wasg yn sôn am £10 miliwn. Ceir cyfeiriadau mewn mannau eraill yn y datganiad i'r wasg at £3.5 miliwn, ac yna yn rhywle arall cyfeirir at £7 miliwn. Rwy'n siŵr y byddem ni'n gwerthfawrogi'r cyfle i gael holi'r Gweinidog o ran pa un a yw hyn yn arian newydd ai peidio, ac a fydd yn darparu gwasanaethau newydd.
Y mater arall o ran y datganiad yw'r amrywiaeth enfawr mewn amseroedd aros rhwng gwahanol fyrddau iechyd. Nid dyma'r lle i dynnu sylw at y rhai sy'n gwneud yn dda a'r rhai sy'n gwneud yn wael, ond rwy'n siŵr, o bosib, y gallai cyd-Aelodau ddyfalu. Ond rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod yn y Siambr hon sy'n poeni'n fawr am gael gwybod—ac, wrth gwrs, heb y mesurau perfformiad newydd ni fyddai'r ffigur hwn ar gael i ni—fod 34,500 o'n cyd-ddinasyddion ar restrau aros ar gyfer gofal offthalmig sydd mewn perygl o niwed difrifol, gan gynnwys colli eu golwg yn barhaol. Nawr, mae'n rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, Llywydd. Collodd fy nhad ei olwg o ganlyniad i aros yn rhy hir am lawdriniaeth cataract 30 mlynedd yn ôl. Fe'm syfrdanwyd yn llwyr o wybod bod dros 34,000 o'm cyd-ddinasyddion mewn perygl o fynd drwy'r hyn yr aeth fy nhad drwyddo, a chredaf fod gan y Siambr hon yr hawl i graffu ar y Gweinidog ar y datganiad hwn, gan groesawu'r mesur perfformiad ei hun, ond credaf ein bod angen edrych yn fwy manwl ar y manylion.