Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 11 Mehefin 2019.
Byddaf yn fyr, Dirprwy Lywydd. Awgrymaf i'r Aelod, yn hytrach na threulio'i amser yn paratoi ei rethreg o negeseuon cudd sy'n ymhonni bod yn gwestiwn, y gallai dreulio ychydig mwy o amser yn gwrando ar y datganiad a'r cyfraniadau blaenorol yn y Siambr, sy'n gwrthbrofi'n llwyr y rhethreg ddifrïol a gwahaniaethol y bu ef yn ymroi iddi dros y pum munud diwethaf.