Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 11 Mehefin 2019.
Mae arian yr UE wedi gwella cwmpas band eang, wedi adeiladu cynhwysedd ymchwil, wedi buddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, ac wedi datblygu seilwaith hanfodol ar gyfer trafnidiaeth, twristiaeth a busnes. Mae'r rhain, ac ystod eang o fanteision eraill, mewn perygl heb fuddsoddiad parhaus hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion.
Er gwaethaf y gwelliannau sylweddol ledled Cymru ers datganoli, mae anghydraddoldebau o fewn y DU yn parhau a'r rhain yw'r uchaf yn yr UE o gryn dipyn. Ni fydd y problemau hyn yn diflannu gyda Brexit. Mae'r mwyafrif helaeth a llethol o ddadansoddiadau economaidd credadwy yn awgrymu mai'r ardaloedd sy'n fwyaf agored i niwed economaidd a gaiff eu taro'n galetaf gan Brexit. Felly, mae angen inni sicrhau buddsoddiad parhaus er mwyn osgoi dad-wneud y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud.
Beth yw neges Llywodraeth y DU i'r bobl, busnesau a chymunedau ledled Cymru y mae'r cyllid hwn, bob dydd, yn cefnogi eu dyfodol? Cynigiodd Llywodraeth y DU gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer y DU gyfan i ddisodli arian yr UE dros ddwy flynedd yn ôl ac addawodd y byddai'n ymgynghori arni droeon yn ystod 2018. Nid ydyn nhw wedi gwneud hynny. Yn y cyfamser, maen nhw dro ar ôl tro wedi gwrthod ymwneud yn ystyrlon â ni o ran disodli'r cyllid hwn yng Nghymru.
Ers y refferendwm, mae ein gofynion wedi bod yn gyson ac yn glir. Rydym ni wedi galw am beidio â chael ceiniog yn llai na'r hyn y byddem ni wedi'i ddisgwyl o fewn yr UE, gan ofyn dim ond am gadw'r addewidion a wnaethpwyd i bobl Cymru yn ystod refferendwm 2016. Rydym ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fod yn annibynnol wrth ddatblygu a chyflawni trefniadau olynol, gan ofyn yn unig bod datganoli, y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ddwywaith, yn cael ei barchu. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo sawl gwaith i barchu datganoli wrth ddatblygu'r gronfa ffyniant gyffredin, ond yn bendant nid yw eu camau gweithredu wedi gwneud hynny.
Felly, gadewch inni fod yn glir—mae'r diffyg penderfyniad a'r diffyg eglurder gan Lywodraeth y DU yn peryglu bywoliaeth pobl, cymunedau a busnesau ledled Cymru yn y dyfodol. Mae anwybyddu confensiynau hirsefydlog ar weithio rhynglywodraethol a thanseilio setliadau datganoli yn rhoi ein hundeb cyfan mewn perygl. Yn gwbl groes i hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati ar unwaith, yn glir ac yn eangfrydig i ddatblygu dull o fuddsoddi rhanbarthol ar gyfer y dyfodol. Rydym ni wedi ymgysylltu'n eang â phwyllgorau'r Cynulliad a grwpiau Seneddol yr holl bleidiau. Mae rhanddeiliaid, gan gynnwys Ffederasiwn y Busnesau Bach, CLlLC, prifysgolion Cymru, CCAUC, a CGGC, a melinau trafod gan gynnwys Sefydliad Joseph Rowntree a'r Sefydliad Ymchwil dros Bolisi Cyhoeddus, i gyd yn cefnogi safbwynt Llywodraeth Cymru.
Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau'n parhau i godi mater cyllid cyfnewid, gan atgyfnerthu ein sefyllfa a phwyso am eglurder gan Lywodraeth y DU, ac mae hyn wedi cynnwys yng nghyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, cyfarfodydd pedairochrog y Gweinidogion cyllid, a thrwy ohebiaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi codi'r materion hyn gyda Phrif Weinidog y DU, ac, wrth gwrs, byddwn yn dal i hyrwyddo ein sefyllfa gyda'r Prif Weinidog a'r Cabinet newydd.
Dywedwyd wrthym y bydd penderfyniadau ar gyllid disodli yn cael eu gwneud yn ystod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant. Gan fod hyn yn debygol o gael ei ohirio erbyn hyn, mae angen eglurder arnom ni ar frys ynghylch setliad ariannol hirdymor sy'n seiliedig ar anghenion. O fewn yr UE, byddem ni eisoes wedi cael y sicrwydd hwn, a byddem ni'n cynllunio rhaglenni newydd yn ffyddiog o gael arian newydd ar gael a'r ymreolaeth i'w ddarparu. Yr hyn na allwn, ac na fyddwn, ni'n ei wneud yw sefyll yn ein hunfan tan y bydd y materion hyn yn cael eu datrys. Nid hyn y byddai ein cymunedau, ein pobl a'n busnesau yn ei ddisgwyl gennym ni, ac mae dyfodol Cymru yn rhy bwysig.
Yn ystod y 18 mis diwethaf, rydym ni wedi cael cyfraniadau manwl i'r ddadl ar drefniadau olynol yng Nghymru gan randdeiliaid a chan bwyllgorau'r Cynulliad. Mae'r rhain yn datblygu cyfeiriad y trywydd a nodwyd yn ein papur polisi Brexit, 'Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit'. Rydym ni wedi sefydlu grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol ar gyfer Cymru i roi cyngor i ni ar y trefniadau olynol, gan fanteisio ar arbenigedd o fyd busnes, llywodraeth leol, academia a'r trydydd sector. Bydd gwaith manwl yn parhau gyda phartneriaid yng Nghymru a'r tu hwnt yn ystod yr haf, wrth i Lywodraeth y DU edrych tuag at i mewn unwaith eto.
Diolch i'r cadeirydd, Huw Irranca-Davies, ac aelodau'r grŵp llywio am eu hymrwymiad hyd yn hyn. Mewn ymateb i farn rhanddeiliaid, nododd fy rhagflaenydd yr egwyddorion a oedd yn sail i'r dull a ffefrir gennym ym mis Hydref y llynedd. Byddwn yn sicrhau bod arian disodli yn cael ei fuddsoddi mewn datblygu rhanbarthol a lleihau anghydraddoldeb. Byddwn ni'n gwneud hyn sawl gwaith y flwyddyn o fewn ein fframwaith cyllideb ein hunain. Rydym ni eisiau gweld canolbwyntio mwy cadarn ar ganlyniadau, sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n cynllun gweithredu economaidd. Yn rhan o hyn, byddwn yn cryfhau swyddogaeth rhanbarthau Cymru yn y broses o wneud penderfyniadau. Rydym ni hefyd yn edrych tuag allan. Bydd ein gwaith gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn sicrhau bod arfer gorau rhyngwladol ar ddatblygu a llywodraethu rhanbarthol yn rhan o'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Felly, i gloi, rydym ni angen sicrwydd ar frys ynghylch y cyllid hwn. Gobeithiaf y bydd Prif Weinidog newydd yn ailystyried agwedd Llywodraeth y DU ac yn parchu datganoli drwy ei weithredoedd yn ogystal â'i eiriau. Mae ein llais yn y dadleuon hynny'n gryfach pan ei fod yn unedig, ac felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.