Part of the debate – Senedd Cymru am 7:06 pm ar 11 Mehefin 2019.
Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ac rwy'n falch eich bod yn teimlo felly hefyd. Byddwn wir yn eich annog i gyflwyno'r sylwadau hynny i'r ymgeiswyr ar gyfer arweinydd newydd y Blaid Geidwadol. Oherwydd rwy'n siŵr bod—. Wel, rydym ni'n sicr yn cytuno a byddwn yn gobeithio y bydden nhw hefyd. Ac rwy'n bwriadu dod yn ôl i roi sylw i rai o'r sylwadau ynghylch adroddiad Communities in Charge, y mae nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio ato.
Ond roeddwn i eisiau sôn ychydig am gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae'r confensiynau gweithio yr ydym wedi'u sefydlu yn cael eu hanwybyddu ac mae hynny'n peri gofid mawr, o ystyried yr angen absoliwt am fwy o gydweithredu rhwng gweinyddiaethau yng nghyd-destun Brexit. Mae ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at ddisodli cronfeydd strwythurol yn mynd yn groes i'r gwaith da sy'n digwydd yn gyffredinol ledled y DU i gryfhau gweithio rhynglywodraethol mewn amrywiaeth eang o feysydd wrth i ni ddynesu at Brexit ac mae'n ei danseilio. Ac rydym ni wedi pwysleisio dro ar ôl tro, os ydym yn cael ein cynnwys yn ystyrlon mewn modd lle perchir y naill ochr a'r llall, yna bydd Llywodraeth y DU yn gweld ein bod yn bartneriaid cwbl adeiladol. Rydym ni wedi gwneud gwaith enfawr y gallwn ei rannu â nhw. Yn anffodus, nid ydyn nhw wedi manteisio ar ein cynnig ni hyd yn hyn.
Rydym ni wedi bod yn glir bod datblygu economaidd yn gymhwysedd datganoledig, a bod y broses o weinyddu cyllid rhanbarthol wedi bod o dan reolaeth Llywodraeth Cymru ers datganoli. Ac mae parchu'r cymhwysedd hwnnw yn awgrymu bod angen caniatáu i bob gwlad yn y DU roi ei threfniadau ei hun ar waith. Ac mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth y DU fod yn ystyried pennu blaenoriaethau neu bennu dulliau cyflenwi ar gyfer y cyllid hwn yng Nghymru.
Pe byddai Llywodraeth y DU yn benderfynol o fynd ar drywydd ymgynghoriad ledled y DU ar y gronfa ffyniant gyffredin, yna byddem yn amlwg yn disgwyl i unrhyw gyfeiriad at Gymru gael ei drafod a'i gytuno gyda ni ymlaen llaw, gan fod dyraniadau neu drefniadau llywodraethu yng Nghymru yn fater i Lywodraeth Cymru, mewn trafodaeth â'n partneriaid yma yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gallai fod yn fuddiol cydgysylltu dulliau ar draws y DU, ond mae'n rhaid gwneud hynny ar y sail bod y gwledydd datganoledig yn cael eu trin fel partneriaid cyfartal, a bod unrhyw gytundebau yn cael eu llunio drwy gyd-drafod ac nid eu gorfodi'n unochrog. Er enghraifft, gan gydnabod bod ein heconomïau'n gydgysylltiedig, rydym wedi nodi ein bod yn cefnogi dull newydd o ymdrin â buddsoddiad rhanbarthol a fyddai'n galluogi buddsoddiadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr. Fodd bynnag, byddai angen i'r buddsoddiadau hynny adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru a dod â manteision amlwg i Gymru. Ac nid yw cael rheolaeth dros gyllid sydd wedi bod gennym ers datganoli yn ymwneud ag ymynysiaeth. Bydd cydweithio'n agosach â rhanbarthau Lloegr yn hanfodol, a bydd mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y defnyddiwn arian newydd yn ein helpu i wneud hyn yn fwy effeithiol.
Ond fe wnaf sôn yn fyr am adroddiad Communities in Charge, y cyfeiriodd nifer o'r Aelodau ato, ac roedd hwnnw'n dangos, os yw'r dyraniadau ar gyfer cyllid yn y dyfodol yn seiliedig ar Barnett, y byddai Cymru ar ei cholled yn sylweddol o'r cronfeydd hanfodol hyn i gefnogi ein busnesau, ein pobl a'n cymunedau, ac, wrth gwrs, byddai Llundain ar ei hennill. Mae'r ffigurau'n gyfarwydd inni yn awr—felly, byddai Cymru ar ei cholled o fwy na £700 y pen, byddai Llundain yn ennill £200 y pen, a byddai Cymru, fel cyfanswm, ar ei cholled o £2.23 biliwn. Ond y ffaith syfrdanol nad yw neb wedi sôn amdani eto yn y ddadl hon, sy'n amlwg yn yr adroddiad hwnnw, yw bod Cymru, o'r chwe ardal arall sydd ar eu colled, yn colli mwy na phob un o'r lleill gyda'i gilydd.
Mae'r heriau hirdymor yr ydym ni'n eu hwynebu yn cael eu hadlewyrchu yn y gwahaniaethau rhanbarthol hynny sy'n amlwg ledled y DU, ac ni fydd y rheini'n diflannu gyda Brexit. Efallai os edrychwn ni'n gyflym ar yr hyn y gallem ni fod wedi'i gael, wrth i mi gloi, yn seiliedig ar ffigurau Eurostat, pe na byddai Brexit byddai cyfran y DU o'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu, o gofio'r ffaith bod cynnyrch domestig gros wedi gostwng o'i gymharu â chyfartaledd yr UE dan gyfnod y Torïaid, a byddai mwy o ranbarthau yn y DU yn gymwys fel ardaloedd llai datblygedig. A, phe na byddai Brexit, mae dadansoddiad gan Gynhadledd Rhanbarthau Morol Ymylol Ewrop yn amcangyfrif y byddai cyfran y DU o gronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd wedi cynyddu 22 y cant, o ystyried perfformiad gwael y DU o gymharu â chyfartaledd yr UE. A, phe byddai Cymru yn cadw'r un gyfran o'r gronfa honno, gallai gyfateb i £450 miliwn ychwanegol dros gyfnod y cynllun, neu tua £65 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn i Gymru. Felly, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod addewidion a wnaed na fyddai Cymru ar ei cholled y tu allan i'r UE—byddwn yn sicrhau bod yr addewidion hynny'n cael eu cadw.
Rwy'n ddiolchgar, fel y dywedaf, i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau. Gobeithio y bydd eu cefnogaeth i gynnwys, os nad naws y ddadl yn caniatáu inni anfon neges unedig i Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog newydd mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ymagwedd sy'n deg i Gymru, sy'n parchu datganoli ac sy'n cadw'r addewidion a wnaed.