Part of the debate – Senedd Cymru am 6:23 pm ar 11 Mehefin 2019.
Llywydd, mae'r adroddiad yma dwi wedi'i grybwyll yn pwysleisio gwerth cronfeydd Ewropeaidd i Gymru, o ran sgiliau, o ran isadeiledd ac yn y blaen. Allwn ni ddim derbyn colli ceiniog os adawn ni'r Undeb Ewropeaidd. Ond ar hyn o bryd, does yna ddim sicrwydd o hynny, ac mae hynny, i fi, yn brawf o gyn lleied o flaenoriaeth ydy lles Cymru yng nghanol hyn oll. Mae gennym ni gyfres o ofynion. Mae angen sicrwydd y bydd arian yn cael ei neilltuo yn llawn ymlaen llaw, nid ei ddyrannu drwy broses fidio gystadleuol. Mae eisiau iddi fod yn rhaglen gyllido aml-flynyddol. Mae eisiau iddo fo adlewyrchu’r sefyllfa bresennol, wrth gwrs, lle mae arian yn cael ei roi yn ôl galw, nid poblogaeth. Ar hyn o bryd, mae Cymru'n derbyn 22 y cant o arian cronfeydd strwythurol Ewrop. Rydych chi'n clywed ein neges ni—dim ceiniog yn llai.
Ond nid dim ond sicrwydd am y symiau o arian rydym ni'n chwilio amdano fo—ac mae hyn wedi cael ei gyfeirio ato fo eisoes. Mae angen sicrwydd y byddai'n cael ei reoli gan Gymru. Rydym ni'n gweld yn barod beth sy'n gallu digwydd drwy'r bargeinion dinesig a'r fargen ranbarthol i'r gogledd, er enghraifft. Wrth gwrs fy mod i'n mynd i groesawu unrhyw arian ddaw o'r Trysorlys i gefnogi datblygiadau yng Nghymru, ond beth sy'n digwydd ydy bod Gweinidogion yn Whitehall eisiau rheoli a chael y gair olaf ar wariant. Mae'n rhaid parchu y setliad datganoli a sylweddoli mai yma yng Nghymru ddylai'r penderfyniadau gael eu gwneud ar osod blaenoriaethau ar gyfer creu Cymru fwy llewyrchus. Ac mae'n ddrwg gen i; mae'r ffaith bod y Ceidwadwyr yn eu gwelliant yn tynnu'r cymal sy'n dweud bod rhaid grymuso y gweinyddiaethau datganoledig yn dweud y cyfan am y bygythiad sydd o'n blaenau ni.