Gwasanaethau Trenau yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 1:38, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Weinidog, y mis diwethaf gofynnais i chi ynglŷn ag amlder y gwasanaethau sy'n stopio mewn arosfannau ar gais megis gorsaf Cydweli. Tybed a ydych wedi cael cyfle eto i drafod rhai o'r cwestiynau hynny gyda'r darparwr. Lle mae arosfannau ar gais ar gael, mae yna gwestiwn hefyd ynglŷn â pha mor hawdd yw hi i deithwyr wneud y cais a pha mor ymwybodol yw teithwyr o sut i wneud hynny. Felly, a gaf fi bwyso arnoch eto i gael trafodaethau pellach gyda Trafnidiaeth Cymru? Rwy'n siŵr fod eu bwriadau'n dda, ond ni lwyddwn i berswadio pobl i ddefnyddio'r gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus hynny oni bai ein bod yn ei gwneud mor hawdd â phosibl iddynt wneud hynny, ac mae'r sylwadau a gaf gan etholwyr sy'n byw ger y rheilffordd honno, yn enwedig lle mae gennych y broblem gyda'r arosfan ar gais, yn dangos nad yw hi bob amser yn hawdd, nad yw'r gard yn dod drwodd yn ddigon cyflym bob amser i allu gwneud y cais, neu efallai nad ydych yn gwybod mai dyna sut y gallwch wneud y cais. Felly, a oes rhywbeth pellach y gallwn ei wneud gyda Trafnidiaeth Cymru i wneud hynny'n haws?