Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 12 Mehefin 2019.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn, a dweud fy mod yn ymwybodol iawn o'r tensiwn sy'n bodoli mewn gwahanol gymunedau ynghylch cysylltiadau rheilffordd ar reilffordd Glynebwy? A dyna pam ein bod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â chynlluniau i gyflwyno pedwar trên yr awr cyn gynted ag y gallwn ar reilffordd Glynebwy. Ac mae'n rhywbeth y bûm yn gweithio'n agos iawn gyda'r Aelod lleol, Alun Davies, arno ers peth amser. Ond gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw ein bod wedi ymrwymo i gyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng tref Glynebwy a Chasnewydd o 2021 ymlaen. Rwyf hefyd yn falch o ddweud y bydd trenau newydd sbon yn cael eu cyflwyno ar gyfer y gwasanaethau drwy Flaenau Gwent yn ystod 2022, a bydd hyn, yn amlwg, yn cynyddu capasiti a threnau ar lefel y platfform. Lywydd, bydd y trenau newydd sbon hyn yn darparu lle i lawer mwy o deithwyr, gyda chyfanswm capasiti o 425, o gymharu â 292 heddiw.