Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddychwelyd at thema trafnidiaeth rheilffyrdd, Weinidog? Ers cyhoeddi'r fasnachfraint reilffyrdd newydd, mae llawer o drafod wedi bod ar y cyhoeddiadau i amserlenni a stoc rheilffyrdd craidd y Cymoedd, ac yn wir, rydych newydd roi newyddion da iawn inni am y cyhoeddiadau arfaethedig i reilffordd Glynebwy. Ond a allai'r Gweinidog roi rhyw syniad inni am unrhyw gyhoeddiadau o'r fath i'r gwasanaethau rheilffordd sy'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a Chwmbrân?