Gwasanaethau Bysiau yng Ngorllewin De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:04, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnaf. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae Trafnidiaeth Cymru yn adolygu sut y gellid darparu gwasanaethau bws yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod cymunedau trefol a gwledig ledled Cymru yn cael budd o wasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig a modern. Bydd y gwaith hwn yn cefnogi'r argymhellion a wneir o ganlyniad i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus' yr ymgynghorwyd yn ei gylch yn ddiweddar.