Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 12 Mehefin 2019.
Gwnaf, wrth gwrs. Mae economi wledig lewyrchus yn hanfodol er mwyn helpu i gynnal cymunedau hyfyw a darparu cyfleoedd cyflogaeth o safon. Mae ein rhaglenni presennol yn darparu cymorth eang i annog datblygu economaidd a ffyniant, gan gynnwys drwy Busnes Cymru, TGCh a gwelliannau trafnidiaeth, yn ogystal â'r cymorth a ddarperir drwy'r cynllun datblygu gwledig.