Part of the debate – Senedd Cymru am 6:57 pm ar 12 Mehefin 2019.
Wel, diolch i Darren Millar am y gydnabyddiaeth fod—. Yn wir, rydym wedi trafod hyn, gyda chi siŵr o fod, yn y Siambr, o ran cefnogi'r camau i ymestyn parthau dim galw diwahoddiad. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny eto ac yn adrodd yn ôl i chi, nid yn unig fel llysgennad, ond mewn ymateb i'r ddadl hon.
Pan oeddwn yn dweud nad yw pob sgam yn digwydd ar garreg y drws, gwyddom fod unigolion yn cael eu targedu drwy'r post, dros y ffôn, ac yn gynyddol, drwy sgamiau seiber. Mae'n debyg nad oeddem yn gwybod hynny mor bell yn ôl pan oeddem yn ystyried y mater hwn yn wreiddiol. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gall cynhwysiant ariannol a digidol ein dinasyddion helpu pobl i ddod yn fwy ymwybodol o'r bygythiadau a chynyddu hyder drwy gymryd camau syml i'w hamddiffyn eu hunain. Mae gennym strategaeth cynhwysiant ariannol sy'n cydnabod bod gallu ariannol gwell yn gallu helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau, a gallai hynny, wrth gwrs—. I'r dioddefwyr hynny, mae'n effeithio ar eu gallu i aros mewn gwaith, gall arwain neu gyfrannu at ddyledion a phroblemau tai a lles, ac mae gan y rhain i gyd gysylltiadau sefydledig â salwch meddwl. Mae ein fframwaith strategol ar gyfer cynhwysiant digidol yn cydnabod bod sgamiau ar-lein yn gallu effeithio ar unrhyw un, ond gall y rhai nad oes ganddynt sgiliau digidol sylfaenol i ddiogelu eu hunain ar-lein fod yn arbennig o agored i'r sgamwyr hyn.
Gwyddom fod sgamiau ar-lein yn dod yn fwyfwy cyffredin wrth i fwy o bobl wneud taliadau ar-lein, bancio ar-lein, cyfathrebu drwy e-bost a chyfryngau cymdeithasol, ac er bod y banciau'n gwneud gwaith rhagorol yn y maes hwn, mae'n rhaid i bawb ohonom godi ymwybyddiaeth o'r bygythiadau i helpu pobl i osgoi dioddef sgamiau mwyfwy soffistigedig. Erbyn hyn, cydnabyddir mai twyll yw'r drosedd fwyaf cyffredin yn y DU ac mae troseddwyr yn datblygu technegau mwyfwy soffistigedig i dwyllo pobl i roi eu harian.
Er nad yw'r cyfrifoldeb dros bolisïau ar droseddu wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, gall nifer o feysydd cyfrifoldeb datganoledig effeithio ar ddiogelwch cymunedol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ym mis Mawrth eleni, trefnodd Tarian, yr uned ranbarthol ar gyfer troseddau cyfundrefnol, daith bws seiberddiogelwch Cymru i addysgu pobl a busnesau am seiberddiogelwch a throseddu. Ariannwyd hynny gan grant refeniw seibergadernid Llywodraeth Cymru. Teithiodd i bob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, gan ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd, busnesau, a rhoi cyngor iddynt ar seiberddiogelwch i sicrhau bod pobl mewn busnesau yn gallu adnabod arwyddion seiberdroseddu a sicrhau bod ganddynt yr hyn y maent ei angen i aros yn ddiogel ar-lein. A gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn cyfarfod yn rheolaidd â phrif gwnstabliaid, comisiynwyr heddlu a throseddu pob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru, lle rydym yn trafod materion sydd o ddiddordeb cyffredin gyda'r nod o wneud cymunedau'n fwy diogel. Mae ein heddluoedd yng Nghymru yn codi ymwybyddiaeth o sgamiau. Mae Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru yn gweithio gydag asiantaethau partner a chymunedau yn ne Cymru i fynd i'r afael â galwyr digroeso ar garreg y drws a masnachwyr diwahoddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ar gyfer 500 o swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol sy'n gweithio yn ein cymunedau, ac maent yn rhoi cymorth lle a phryd bynnag y bo angen ac yn rheolaidd yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth o sgamiau gyda thrigolion lleol a'r rôl bwysig y gallant ei chwarae.
Rwy'n croesawu'r camau sy'n cael eu cymryd gan dîm sgamiau'r Safonau Masnach Cenedlaethol i hyfforddi 1 filiwn o ffrindiau ledled y DU erbyn 2020, gan gynnwys 50,000 yng Nghymru dros y ddwy flynedd nesaf. Mae'n ymwneud ag annog pobl i edrych ar ôl ei gilydd yn eu cymunedau ac adnabod yr arwyddion y gallai rhywun fod mewn perygl—mae hwnnw'n bendant yn gam cadarnhaol i atal troseddau pellach. A hoffwn dynnu sylw at waith Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau y mae eu haelodau'n cynnwys Age Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a safonau masnach. Felly, rwy'n gobeithio fy mod wedi rhoi sicrwydd i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru yn malio am y mater hwn. Rydym yn gweithio'n galed o fewn ein cyfrifoldebau datganoledig i gael gwared ar sgamiau a chefnogi dioddefwyr a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth a chodi ymwybyddiaeth o'r mater pwysig hwn lle bynnag y bo modd, a byddwn yn mynegi ein pryderon wrth Weinidogion y DU sy'n gyfrifol am y materion hyn, ac yn gweithio gyda hwy. Diolch.