Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 12 Mehefin 2019.
Hoffwn ddiolch i Caroline am ganiatáu i mi gyfrannu at ei dadl. Mae sgamiau, yn eu hanfod, yn dor-ymddiriedaeth. Maent yn aml yn achosi embaras, lle bydd dioddefwr yn beio'i hun bron am gredu'r sgam. Wrth gwrs, bydd codi ymwybyddiaeth o sgamiau yn gymorth mawr i leihau'r stigma di-alw-amdano o fod yn ddioddefwr sgam, yn ogystal ag annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus, ond un o'r ffyrdd allweddol o godi ymwybyddiaeth yw drwy erlyniadau, sydd i'w gweld yn digwydd yn anfynych tu hwnt.
Yn wir, yn gynharach eleni, dywedodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi a'r Gwasanaethau Tân ac Achub fod ymagwedd anghyson tuag at blismona twyll yng Nghymru a Lloegr, a bod hynny wedi golygu bod y cyhoedd yn wynebu risg uchel o sgamiau. Ym mis Ebrill, dywedodd Wayne May, sylfaenydd Scam Survivors, gwefan sy'n ymroddedig i ddatgelu twyllwyr a helpu dioddefwyr, wrth y BBC ei fod yn cydymdeimlo â'r heddlu. Esboniodd fod twyllwyr yn aml yn gweithredu mewn gwahanol wledydd, felly er y gallai dioddefwr golli popeth sydd ganddynt, byddai'n costio mwy iddynt geisio ymchwilio i'r achos. Yn aml, ni fydd dioddefwyr yn rhoi gwybod am y sgamiau, nid yn unig oherwydd yr embaras, ond oherwydd eu bod wedi darllen storïau ar-lein lle y mae'r heddlu wedi dweud wrth ddioddefwyr nad oes dim y gallant ei wneud.
Felly, beth y gallai'r ateb fod os yw canfod ac erlyn mor anodd a chostus? Mae Google, Amazon, eBay, Facebook a PayPal i gyd yn gwneud symiau enfawr o arian ac yn defnyddio algorithmau soffistigedig i broffilio pobl sy'n defnyddio eu gwasanaethau. Os ydych yn cerdded i mewn i rai canghennau gyda'ch ffôn symudol yn eich poced, bydd Google yn rhoi gwybod i'r clerc sydd y tu ôl i'r cownter pa gynhyrchion ariannol rydych wedi chwilio amdanynt ar Google yn ddiweddar ac felly pa rai y dylent geisio eu gwerthu i chi. Wrth gwrs, mae Google yn codi tâl ar y banciau am y gwasanaeth hwn. Yn sicr, gyda'r holl waith monitro y mae Google, Amazon a'r lleill yn ei wneud, gallent fod yn gwneud mwy i ganfod sgamiau a'r rhai sy'n agored iddynt. Efallai y dylem ystyried gorfodi'r cwmnïau technoleg mawr i wneud mwy, ac ystyried eu dwyn i gyfrif, yn rhannol o leiaf, os bydd un o'u defnyddwyr yn dioddef sgam. Mae'r broblem hon yn codi, yn bennaf, oherwydd y farchnad ar-lein, ac nid yw ond yn briodol, fel rydym yn ymdrin yn briodol â diogelwch corfforol, y dylem fynnu ei bod yn awr yn bryd i'r rhai sy'n gwneud ffortiwn drwy roi pobl mewn cysylltiad ag eraill ar-lein orfod ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am adennill colledion y rhai sy'n dioddef sgamiau o ganlyniad i hynny. Felly, hoffwn ddiolch i Caroline am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n cefnogi'r ddadl yn llwyr—