Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 12 Mehefin 2019.
Rwy'n ddiolchgar ichi, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch chi, fel finnau, wedi gweld adroddiadau rhyfeddol braidd yn y wasg y bore yma na ddarparwyd cymorth diplomyddol ar gyfer y Prif Weinidog yn ystod ei ymweliad â Brwsel. Nawr, fel chi a fi—rydym ein dau wedi mwynhau cymorth gwasanaeth diplomyddol y Deyrnas Unedig, ac rwy'n cofio trafod a negodi gyda David Lidington a William Hague ac eraill sut y gellir cryfhau hynny. Er nad yw Gweinidogion yn y fan hon yn Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweinidogion y Deyrnas Unedig ydynt, ac ym Mrwsel, rydym yn rhan o dîm gweinidogol y Deyrnas Unedig, ac mae gennym gytundebau â Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n dynodi ein bod yn cael cymorth Cynrychiolaeth y Deyrnas Unedig i'r Undeb Ewropeaidd a'r swyddfa dramor. Hoffwn gofnodi fy niolch i UKRep ac i weision sifil yn y swyddfa dramor am y gefnogaeth ardderchog a gefais, o fewn yr Undeb Ewropeaidd ac mewn mannau eraill, wrth deithio fel cynrychiolydd ar ran Llywodraeth Cymru. A wnewch chi godi'r mater hwn gyda David Lidington pan fyddwch yn ei gyfarfod yn ddiweddarach yr wythnos hon, a dweud wrtho ein bod yn disgwyl i'n holl Weinidogion gael eu trin â'r parch a roddir iddynt gan y mandad etholiadol, a'n bod yma i gynrychioli'r Llywodraeth yma a'r Cymry, ac nid oes disgwyl inni ofyn caniatâd unrhyw aelod o Lywodraeth y DU ynglŷn â sut y gwnawn hynny?