Trafodaethau Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:31, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Gwnsler Cyffredinol, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Mae ofn cynyddol fod y gwasanaeth iechyd gwladol yn mynd i fod yn aberth ar allor Brexit 'dim bargen'. Pan ddywedodd Donald Trump y byddai'r GIG yn wasanaeth a fyddai'n rhan o gytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, pan safai Theresa May yn ei ymyl a gwrthod gwadu hynny, pan fo'r UDA wedi gwrthod newid eu hamcanion negodi, sy'n cynnwys yr holl wasanaethau fel rhan o gytundeb, pan fo gennym sefyllfa lle mae cytundebau masnach ryngwladol a allai ddiystyru a gweithredu mesurau mewn meysydd datganoledig heb ganiatâd y lle hwn, pan fo'r Gweinidog iechyd wedi ysgrifennu at Theresa May flwyddyn neu ddwy yn ôl yn gofyn am sicrwydd a gwarantau ynghylch amddiffyn y GIG, rhywbeth y gwrthododd eu rhoi, ac mewn sefyllfa pan fo gennym Brif Weinidog Torïaidd newydd posibl sy'n cefnogi preifateiddio'r gwasanaeth iechyd gwladol a chytundeb masnach unochrog gyda'r UDA, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol rhag Brexit 'dim bargen'?