Trafodaethau Brexit

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 2:34, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs roedd y drafodaeth Brexit ddiweddaraf gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â defnydd, neu ddiffyg defnydd, y Prif Weinidog o gar y Swyddfa Dramor ym Mrwsel heddiw. Fodd bynnag, ar fater y GIG, ni chaiff ei fasnachu. Pan fydd rhywbeth yn wasanaeth cyhoeddus, nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o gytundeb masnach yn y ffordd a awgrymir. Wrth gwrs, os oes gennych gaffael cyhoeddus, fe fyddwch am gaffael yn rhad ac yn effeithiol a chael gwerth da, ac os ymrwymwch i gontract gyda darparwr tramor, mae'n eithaf rhesymol disgwyl i'r contract hwnnw gael ei barchu ac y dylid ei yswirio naill ai drwy lysoedd Prydain neu drwy drefn ddatrys anghydfod i fuddsoddwyr. Onid dyna'r cwbl sydd dan sylw yma?