Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch. Yn ôl y ddogfen 'Managing Brexit/EU withdrawal in health and social care in Wales' a gynhyrchwyd gan Gydffederasiwn y GIG ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yng Nghymru, mae'r byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau wedi bod yn gweithio i sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith i reoli unrhyw senario iechyd cyhoeddus. Fodd bynnag, nodir bod y systemau presennol wedi cael eu profi a'u bod wedi arwain at y canfyddiad eu bod yn ddigon cadarn i wrthsefyll aflonyddwch sy'n gysylltiedig â 'dim bargen'. Mae hwn yn newyddion cadarnhaol, wrth gwrs. Fodd bynnag, buaswn yn ddiolchgar pe gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am eich gwaith gyda'r sector fferyllol a Llywodraeth y DU er mwyn helpu i sicrhau nad oes prinder meddyginiaethau os ydym yn gadael heb gytundeb ym mis Hydref.