Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:39 pm ar 12 Mehefin 2019.
Roeddwn yn drist iawn o glywed y newyddion ddydd Llun fod 280 o weithwyr yn fy rhanbarth yn wynebu cael eu diswyddo am fod Quinn Radiators wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr. Fel y dywedwyd, roeddent yn bobl ffyddlon a gweithgar a roddodd flynyddoedd o wasanaeth rhagorol i'r cwmni. Mae fy nghalon yn gwaedu dros bob un ohonynt a'u teuluoedd. Weinidog, hoffwn wybod a oeddech yn ymwybodol o'r anawsterau a wynebai'r cwmni. Fel y dywedwyd, un o'r agweddau mwyaf erchyll ar yr hyn a ddigwyddodd iddynt oedd na chawsant wybod tan yn hwyr iawn. Cafwyd un cyfweliad gyda dyn ar y BBC a oedd wedi benthyg £6,000 y bore hwnnw. Pe bai gweithwyr tebyg iddo ef wedi cael mwy o wybodaeth, gallent fod wedi ystyried hynny wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol.
Rwy'n ymwybodol, unwaith eto, fel y dywedwyd, fod digwyddiad wedi'i gynnal y bore yma i gynnig cymorth i'r cyn-weithwyr. A fyddech cystal â dweud wrthym faint oedd yn bresennol yn hwnnw, a pha gynlluniau sydd ar y gweill i gysylltu â'r rheini nad oeddent yn gallu bod yn bresennol?
Hoffwn wybod hefyd sut y byddwch yn sicrhau bod pawb yn gwbl ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael drwy'r cynllun ReAct, er enghraifft. A fyddwch yn cynnig cymorth iddynt i hawlio tâl a gollwyd a thaliadau dileu swydd? A allech hefyd ymrwymo i fuddsoddi'r arian y byddwch yn ei adfer, gobeithio, o'r benthyciad a roddwyd i'r cwmni i greu swyddi yn yr ardal ac i uwchsgilio gweithwyr y bydd angen iddynt ddod o hyd i waith arall?
Ac yn olaf, Weinidog, hoffwn ailadrodd yr alwad a wnaed gan Adam Price a Bethan Sayed am gynnal archwiliad o gyflogwyr mawr presennol yng Nghymru fel y gall Llywodraeth Cymru fabwysiadu ymagwedd ataliol tuag at gynaliadwyedd swyddi drwy gael syniad clir o ble mae problemau'n debygol o ddatblygu fel y gallant weithredu'n bendant er mwyn diogelu swyddi yn hytrach nag adweithio pan fyddant yn cael eu colli.