Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 12 Mehefin 2019.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cynigion i ethol Aelodau i bwyllgorau, ac yn unol â Rheolau Sefydlog 12.24 a 12.40, rwy'n cynnig bod y cynigion i ethol yr Aelodau hynny i'r pwyllgorau hynny'n cael eu grwpio ar gyfer dadl ac ar gyfer pleidleisio. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynigion yn ffurfiol—Caroline Jones.