Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 12 Mehefin 2019.
Rwy'n falch o ddweud fy mod yn credu bod llawer o enghreifftiau da ledled Cymru o ysgolion yn ateb yr her hon, a tybed a fyddech yn ymuno â mi i gydnabod cynnydd ysgolion fel Ysgol Gynradd Ringland yn fy etholaeth i, lle maent wedi cynyddu cerdded, beicio a mynd ar sgwter i'r ysgol 20 y cant dros y flwyddyn ddiwethaf, felly erbyn hyn mae ychydig dan hanner y disgyblion yn teithio i'r ysgol gan ddefnyddio'r dulliau hynny.