5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Gweithgarwchedd Corfforol Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 4:43, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Wel, dyma'r holl bwynt am symud i ffwrdd oddi wrth y syniadau traddodiadol am weithgarwch corfforol ac addysg gorfforol fel y'u haddysgir. Mae'n ymgais i wneud gweithgarwch corfforol yn atyniadol drwy ryngweithio â'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y maes hwnnw. Nid mater o ddweud ein bod yn disgwyl i bawb roi cynnig ar chwaraeon elît yw hyn, ond disgwyliwn i bawb roi cynnig ar weithgarwch corfforol i raddau sy'n eu bodloni, sy'n eu galluogi i fwynhau bywyd i'r eithaf. A dyna pam y mae'r modelau rôl hyn mor bwysig.