6. Dadl Plaid Cymru: Dewisiadau amgen i Ffordd Liniaru'r M4

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 12 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 4:55, 12 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Llywydd. Fel arfer buaswn yn hoffi agor dadl fel hon drwy egluro pam ei bod yn amserol, ond mewn sawl ffordd, nid yw hon yn ddadl amserol. Mae gwella'r M4 wedi bod yn destun dadl ers cyn dechrau datganoli. Fe'i cynigiwyd gyntaf yn 1981 gan y Swyddfa Gymreig, ac eto dyma ni 27 mlynedd yn ddiweddarach ac rydym yn dal i'w drafod.

Gadewch imi fod yn glir: gwrthod y llwybr du arfaethedig ar sail cost a'r amgylchedd oedd y penderfyniad cywir. Nid oedd gwario swm sy'n cyfateb i 10 y cant o gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru ar un darn o ffordd a fyddai wedi dinistrio gwastadeddau Gwent yn ffordd dderbyniol o weithredu. Yn fwy na hynny, mae astudiaethau wedi dangos bod uwchraddio ffyrdd ynddo'i hun yn arwain at fwy o geir yn defnyddio'r ffyrdd hyn. Ein Senedd ni oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd. Rwy'n falch iawn o hynny, ac mae hwn yn un o'r camau, anodd ie, ond hollol angenrheidiol yr oedd yn rhaid iddo ddeillio o'r datganiad hwnnw. Ond roeddem yn gwybod hyn i gyd cyn i Lywodraeth Cymru benderfynu gwario £114 miliwn a threulio pum mlynedd o ymdrech ar yr ymchwiliad a datblygu'r prosiect. Dyna £114 miliwn yn fwy y gellid bod wedi'i wario ar gynllun cyflawnadwy fel y llwybr glas, a gefnogwyd gan Blaid Cymru.

Felly, dyma ni'n ôl i'r dechrau. Roedd llawer ohonom yn synnu nad oedd gan Lywodraeth Cymru gynllun B yn barod i fynd, felly rydym yn gorfod dechrau o'r dechrau gyda sefydlu comisiwn arall i ystyried pa rai o'r dewisiadau eraill yn lle'r llwybr du y dylid eu dilyn. Ni fydd y problemau i Gasnewydd yn diflannu ar eu pen eu hunain. Mae'r bobl sy'n byw yng Nghasnewydd, yn cynnwys aelod o fy staff, yn daer am ateb i dagfeydd a llygredd sy'n rhy aml yn gorlifo i'w strydoedd pan fydd damweiniau yn nhwnelau Bryn-glas yn golygu bod traffig yn cael ei ailgyfeirio. Ni allwch adael iddo waethygu. Felly, rydym wedi galw'r ddadl heddiw er mwyn amlinellu dewisiadau eraill y gellid eu hystyried i helpu pobl Casnewydd gan fod yn rhaid i'w pryderon hwy fod yn ganolog yn yr ystyriaethau hyn wrth gwrs. Ond byddwn hefyd yn edrych ar ffyrdd eraill o leddfu tagfeydd ar ein ffyrdd ac uwchraddio ein seilwaith er mwyn ein gwneud yn wlad werdd, gynaliadwy sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Wedi'r cyfan, mae gennym werth £1 biliwn o bwerau benthyca ar gael inni bellach yn ogystal â chyllideb buddsoddi cyfalaf Llywodraeth Cymru.

O ran gwelliannau i ffyrdd, yn sicr dylid ystyried y llwybr glas ochr yn ochr â dewisiadau eraill, gan gynnwys uwchraddio ffyrdd presennol ac arwyddion electronig a fyddai'n cyfeirio cerbydau naill ai at y ffordd newydd neu'r M4 presennol i gadw traffig a masnach yn llifo. Yn fwy na hynny, dylem ystyried dysgu o esiampl yr Alban o dalu grantiau i gwmnïau sy'n penderfynu cludo nwyddau ar drenau. At hynny, dylai'r Llywodraeth edrych ar raglen o gydgrynhoi nwyddau, lle caiff nwyddau eu trosglwyddo o gerbydau llai i gerbydau nwyddau trwm mwy o faint er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar y ffordd, ond rhan o'r ateb yn unig y gall hyn fod.

Felly, o ran gwelliannau i drafnidiaeth gyhoeddus, dylai'r opsiynau gynnwys archwilio'r posibilrwydd o ddarparu bysiau cyflym i fannau cyfyng, gwella trafnidiaeth gyhoeddus o ardaloedd fel Trefynwy a Chasnewydd i Gaerdydd er mwyn lleihau'r pwysau ar y M4, a chyflwyno gwelliannau i reilffordd Glynebwy. Mewn llawer o ardaloedd, nid yw un trên yr awr yn ddigon da. A gallai Llywodraeth Cymru hyd yn oed ystyried pennu prisiau tocynnau trên lleol. Yn olaf, gallem ystyried darparu gwasanaeth bws am ddim ar lwybrau dethol am gyfnod penodedig. Dim ond pedwar mis a gymerodd i sefydlu teithiau am ddim ar y penwythnos ar holl wasanaethau TrawsCymru, cam a gynyddodd niferoedd y teithwyr. Gallai teithio am ddim neu am hanner pris gael yr un effaith yn union. Gadewch i ni fod yn fentrus yma. Mae pobl Casnewydd a'r holl gymudwyr sydd wedi cael llond bol ar eistedd mewn ciwiau ar y draffordd angen ateb i'r broblem feunyddiol sy'n eu hwynebu, ac maent yn haeddu hynny. Mae angen ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy'n cyfuno seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern â newid sylfaenol oddi wrth ddefnyddio ceir.

Rwy'n gobeithio y gall y syniadau hyn fod yn sail i'n trafodaeth ni heddiw. Bydd Plaid Cymru yn eu trafod yn fewnol—rydym eisoes yn eu trafod yn fewnol—a bwriadwn gyhoeddi ein hargymhellion manwl maes o law. Edrychaf ymlaen at glywed syniadau gan Aelodau eraill ar draws y Siambr.