Part of the debate – Senedd Cymru am 5:29 pm ar 12 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. Mae'n bleser cael ymateb i'r ddadl hon y prynhawn yma. Mae'n bwnc anhygoel o bwysig, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Fel y cafodd yr Aelodau wybod yr wythnos diwethaf, ac fel y buom yn dadlau yma heddiw, penderfynodd y Prif Weinidog beidio â bwrw ymlaen â phrosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd, sef yr hyn a elwid fel arall yn llwybr du. Cyflwynwyd y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw a'r camau pwysig nesaf yn fy natganiad ysgrifenedig.
Mae'r Prif Weinidog a minnau wedi bod yn glir iawn yn y datganiadau a'r penderfyniadau hynny ein bod yn dal yn gwbl ymroddedig i fynd i'r afael â phroblemau tagfeydd ar y rhwydwaith yn ne-ddwyrain Cymru. Yn y tymor byr, gan weithio gyda phartneriaid ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd a Chyngor Dinas Casnewydd, gofynnais i fy swyddogion gyflwyno cyfres o fesurau i ddarparu manteision cymedrol ond uniongyrchol i'r ffordd. Fel rwyf hefyd wedi'i ddweud, rwy'n penodi comisiwn arbenigol i wneud argymhellion ar y camau nesaf ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, a chyhoeddwyd cylch gorchwyl y comisiwn gyda fy natganiad—[Torri ar draws.]—rwy'n cael fy nhemtio'n fawr i wneud. Rwyf wedi ystyried yn ofalus y cwestiwn a ddylai'r comisiwn seilwaith cenedlaethol fod wedi cael y gwaith penodol hwn, ond Lywydd, bernais y gallai'r gwaith sylweddol ac uniongyrchol hwn eu hatal rhag bwrw ymlaen â gwaith hollbwysig arall sy'n rhaid ei ystyried er ein budd hirdymor. Wedi dweud hynny, rwy'n awyddus iddynt gyfrannu at waith y comisiwn arbenigol.
Rwy'n falch y bydd yr Arglwydd Terry Burns yn cadeirio'r comisiwn, a siaredais â'r Arglwydd Burns ddydd Llun yr wythnos hon a dweud wrtho y dylai'r comisiwn allu ystyried pob ateb, ond bod yn rhaid iddynt ystyried y rhesymau pam nad yw'r Prif Weinidog yn bwrw ymlaen â'r llwybr du. A byddaf yn sicrhau, Lywydd, fod y comisiwn yn ystyried yr ateb a rannwyd gyda ni heddiw gan David Rowlands, ynghyd ag unrhyw argymhellion dichonadwy eraill gan Aelodau yn y Siambr hon. Rwy'n disgwyl adroddiad interim cyn pen chwe mis ar ôl i'r comisiwn gael ei ffurfio, ond rwyf wedi dweud yn glir iawn y dylai'r cadeirydd allu cyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflawni yn y tymor byr rhwng nawr a diwedd y chwe mis hwnnw os yw'n teimlo y gellid eu cyflawni.
Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi bod yn glir mai'r argymhellion a gyflwynir gan y comisiwn fydd yn cael eu hystyried gyntaf ar gyfer cyllid a neilltuir gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau a welwn ar y rhan honno o'r rhwydwaith. Ond rydym hefyd wedi bod yn glir gyda'r Aelodau fod yn rhaid i'r atebion hynny ddarparu gwerth da am arian. A mater i'r comisiwn fydd ystyried pob ateb. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw brosiectau anwes, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, y tu allan i waith y comisiwn. Nawr, er y bydd galwadau'n cystadlu am gyllid bob amser, rydym yn glir fod sicrhau atebion cynaliadwy i'r heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn brif flaenoriaeth, a gallaf sicrhau'r Aelodau na wastreffir y buddsoddiad datblygu ers 2013 a bydd y comisiwn yn gwneud defnydd da ohono, gan sicrhau ei fod yn cael yr holl wybodaeth modelu trafnidiaeth, arolygon amgylcheddol a phob ffactor arall perthnasol ar draws y rhanbarth.
Rhaid imi ddweud wrth Aelodau na allai unrhyw un sydd wedi darllen yr adroddiad ddod i unrhyw gasgliad heblaw na ddylid ystyried y llwybr glas o gwbl. Cafodd y llwybr glas ei feirniadu'n hallt yn adroddiad yr arolygydd, ac nid wyf yn deall o gwbl sut y gallai Aelodau sy'n honni eu bod yn cefnogi argyfwng hinsawdd gefnogi'r llwybr glas, nac yn wir sut y gallai Aelodau sy'n gwrthwynebu gwario £1 biliwn ar y llwybr du gefnogi gwario £1 biliwn ar y llwybr glas. [Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn munud, ond yn gyntaf, rwy'n dweud yn awr, er budd yr Aelod, os nad yw wedi cael cyfle i ddarllen yr adroddiad eto a phenderfyniadau'r arolygydd ynghylch y llwybr glas, ar dudalen 460 daeth i'r casgliad, am brisiau 2015, y byddai'r llwybr glas yn costio £838 miliwn yn hytrach na £350 miliwn, sy'n golygu y byddai prisiau 2019 yn sylweddol uwch. Ar yr un dudalen, mae'n amlinellu pam y byddai gan y llwybr glas gymhareb cost a budd negyddol neu isel iawn, mewn cyferbyniad â chymhareb cost a budd y llwybr du o 2:1. Ar dudalen 459, mae'n dweud y byddai'r llwybr glas yn annigonol, yn anghynaliadwy, y byddai'n parhau i losgi carbon y gellid ei osgoi a llygredd aer lleol, ac y byddai'r llwybr glas yn ddiffygiol iawn o ran lliniaru problemau'r draffordd, yn y tymor byr neu'n hirdymor, ac felly byddai'n anghynaliadwy. Dywedodd yr arolygydd hefyd am y llwybr glas y byddai wedi golygu adeiladu ar wibffordd drefol uchel yn agos at lle mae pobl yn byw a chreu baich pellach ar ffordd ddosbarthu bwysig. Byddai wedi achosi difrod ofnadwy i 3,600 o deuluoedd, ac ni ddylid bod wedi rhoi unrhyw ystyriaeth bellach i'r cynnig. Fe ildiaf.