Part of the debate – Senedd Cymru am 5:34 pm ar 12 Mehefin 2019.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod, a dweud y gwir, oherwydd credaf ei bod yn briodol i'r Aelodau dreulio amser yn ystyried yr hyn a ddywedodd yr arolygydd am y dewisiadau amgen hynny, oherwydd mae'n gwbl amlwg na ddylid ystyried y llwybr glas ymhellach. Ac os yw'r Aelodau'n darllen yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio y byddant yn darllen yr adroddiad, byddant yn ailfeddwl am unrhyw gefnogaeth a roddwyd ganddynt hyd yma i'r ateb penodol hwnnw. [Torri ar draws.] Cewch, wrth gwrs.