Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 12 Mehefin 2019.
Nid ydym am i bobl roi'r gorau i ailgylchu, felly'r ateb i hynny yw sicrhau ein bod yn datblygu'r marchnadoedd hyn yn nes at adref. Rwy'n fwy na pharod i anfon cymaint o wybodaeth ag y gallwn i chi gael golwg arni.
Roeddwn yn sôn am gynlluniau dychwelyd blaendal. Maent wedi profi eu bod yn gwella'r broses o ailgylchu ar hyd y lle a lleihau sbwriel, yn ogystal â darparu casgliad safonol o gynwysyddion diodydd y gellir eu hailgylchu. Clywais feirniadaeth heddiw—rwy'n credu ein bod wedi siarad ynglŷn â sut y cawsom sgyrsiau gyda chymheiriaid ar draws y gweinyddiaethau datganoledig a'r DU, ond rydym wedi pasio hynny bellach. Nid wyf yn gwybod a oes rhai o'r Aelodau wedi bod yn hepian, ond yn ddiweddar, buom yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ynghylch rhinweddau cyflwyno cynllun dychwelyd blaendal ac ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr.
Daeth yr ymgynghoriad i ben fis diwethaf ac fel y byddai'r Aelodau'n disgwyl, cafwyd cryn dipyn o ddiddordeb yn yr ymgynghoriad ac ymatebion iddo. Mae'n bwysig yn awr ein bod yn ystyried sut y byddai unrhyw gynllun yn cyd-fynd â'n casgliadau presennol o gartrefi yn ogystal ag edrych ar yr effeithiau ar y defnyddwyr, megis costau a hygyrchedd. Fel y dywedais, mae'r argymhellion hyn ar gyfer cynllun dychwelyd blaendal yn cydredeg â chynigion ehangach i gyflwyno cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, sy'n creu mwy o gyfrifoldeb ar y cynhyrchwyr am y deunydd pacio y maent yn ei greu. Pe bai'r rhain yn cael eu rhoi ar waith, y dull gorau a mwyaf buddiol fyddai gwneud hyn ar yr un pryd.
Yn ystod yr ymgynghoriad ar y ddau beth hyn, cynhaliais sesiwn friffio i Aelodau'r Cynulliad yn ogystal â chyfarfod i randdeiliaid o bob maes gydag awdurdodau lleol, manwerthwyr, a'r sector amgylcheddol hefyd, a buaswn yn fwy na pharod i ailadrodd hynny wrth inni symud i gamau nesaf y broses hon. Yn gysylltiedig â hyn mae ein huchelgais i ddod yn genedl ail-lenwi gyntaf y byd. Ymgyrch dŵr tap ymarferol yw'r ymgyrch ail-lenwi i leihau faint o wastraff plastig a achosir gan boteli plastig untro. Yn dilyn ein cefnogaeth a'n gwaith hyrwyddo ar y cynlluniau ail-lenwi, rwy'n falch o rannu gyda'r Aelodau fod dros 1,000 o orsafoedd ail-lenwi ledled Cymru erbyn hyn a bod gan dros 96 y cant o'r cymunedau ar hyd llwybr arfordir Cymru bresenoldeb ail-lenwi.
Credaf mai Dai Lloyd a hefyd David Melding a siaradodd am ficroblastigion a'r effaith ar yr amgylchedd morol a'n cadwyn fwyd yn arbennig. Rydym yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth er mwyn mynd i'r afael â'r broblem hon a chasglu rhagor o dystiolaeth, a hefyd mae gwaith yn mynd rhagddo ar gyfyngiadau ar gynhyrchion a wneir o blastigion oxo-ddiraddadwy, sy'n cynnwys ychwanegion sy'n cyflymu'r broses o ddadelfennu microblastigion niweidiol.
Mae pawb ohonom wedi clywed am y cyhoeddiad diweddar a ailadroddwyd yma heddiw gan Lywodraeth y DU i wahardd gwellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm yn Lloegr. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau ein bod ni yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfyngu ar, neu wahardd argaeledd y cynhyrchion hyn yn unol â chyfarwyddeb plastigion untro yr Undeb Ewropeaidd. Cawsom gyhoeddiadau ond yr hyn sydd ei angen arnom yw gweithredu. Felly, byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid ac yn ymgynghori ar ein cynigion ar gyfer cyfyngiadau ar wellt plastig, trowyr diodydd a ffyn cotwm ac ar ystod ehangach o eitemau fel ffyn balwnau, cyllyll a ffyrc, platiau a chynwysyddion bwyd a diod polystyren.
Yn ogystal, mae Trysorlys Cymru wedi bod yn gweithio gyda Thrysorlys ei Mawrhydi ar gynigion i gymell y defnydd o blastig wedi'i ailgylchu drwy ddefnyddio treth ar bob deunydd pacio plastig sydd â llai na 30 y cant o gynnwys wedi'i ailgylchu. Byddwn yn parhau i gydweithio â Thrysorlys ei Mawrhydi hyd nes y bydd mwy o wybodaeth ar gael ar ddull arfaethedig Llywodraeth y DU, a sicrhau ein bod yn parhau i fod yn rhan o'r broses o ddatblygu a gweithredu polisi ar gyfer unrhyw fesur trethiant yn y maes hwn.
Ond mae'n amlwg fod y cyhoedd, gwleidyddion a rhanddeiliaid yn gyffredinol yn awyddus i roi camau ar waith i fynd i'r afael â gwastraff plastig yng Nghymru. Felly, rydym yn parhau i asesu'r potensial ar gyfer cyflwyno treth neu dâl am gynwysyddion diodydd untro yng Nghymru. Mae hyn yn parhau i fod yn opsiwn i ni, a bydd yn dibynnu ar ganlyniad cyfres o ymgyngoriadau ar wastraff a deunydd pacio a lansiwyd eleni, gan gynnwys cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a oedd yn cynnwys cwestiwn hefyd ynglŷn ag ardoll bosibl ar gynwysyddion diodydd, ynghyd â chamau pellach, a'r gwaith a wnawn gyda busnesau i gynyddu eu lefelau ailddefnyddio eu hunain.
Wrth inni ddatblygu'r agenda hon, mae hefyd yn hynod o bwysig ein bod yn gochel rhag canlyniadau anfwriadol, yn ogystal â bod yn deg ac yn gymesur yn unol ag egwyddorion treth a nodwyd yn y fframwaith polisi treth. Ond fel cenedl, gallwn fod yn arbennig o falch o'n llwyddiant arloesol ym maes ailgylchu, rhywbeth sy'n cael ei gydnabod ledled y byd. Mae'r flwyddyn hon yn nodi ugain mlynedd ers datganoli, ac ar drothwy datganoli, 5 y cant yn unig o'n gwastraff a oedd yn cael ei ailgylchu yng Nghymru. Rydym bellach wedi cyrraedd dros 60 y cant. Rydym wedi arwain yn y DU, gan gyflwyno tâl am fagiau siopa a chyflwyno deddfwriaeth i wahardd microbelenni. Rwyf am i Gymru arwain unwaith eto ar reoli gwastraff ac adnoddau ac ar newid i economi gylchol ddiwastraff.
Gyd-Aelodau, ni ddylem dwyllo ein hunain ynglŷn â maint y broblem. Mae llawer y gallwn ei wneud fel Llywodraeth ac fel unigolion i wella pethau. Mae cymunedau ledled y wlad yn cymryd camau i leihau plastigion untro, o Aberporth i Ynys Môn. Mae hyn i'w gymeradwyo a'i gefnogi. Mae'r momentwm wedi bod ar gynnydd dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys yn yr Wyddgrug, yn fy etholaeth i, a chynhelir ail gyfarfod cymunedol o Lleihau Plastig yr Wyddgrug yr wythnos hon. Mae camau gweithredu unigol bach yn gwneud gwahaniaeth o'u cyflawni ar y cyd, felly mae'r cyfrifoldeb ar bob un ohonom i weithredu, gan gynnwys y Llywodraeth—camau y mae'r Llywodraeth hon wedi'u cymryd ac y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem plastig i'n hamgylchedd, i'n cymunedau ac i'n dyfodol. Diolch.