Part of the debate – Senedd Cymru am 6:38 pm ar 12 Mehefin 2019.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, neb yn ymatal, 19 yn erbyn. Felly, fel sy'n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, rwyf am fwrw fy mhleidlais fwrw yn erbyn y gwelliant, ac felly, gwrthodwyd gwelliant 1.