Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 19 Mehefin 2019.
Ym mis Mawrth, lansiwyd ein cynllun datgarboneiddio statudol cyntaf ar gyfer y Llywodraeth gyfan, 'Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel'. Mae'n nodi 100 o bolisïau a chynigion, ar draws pob sector o'n heconomi, er mwyn cyflawni ein cyllideb garbon gyfredol, a phennu trywydd datgarboneiddio mwy hirdymor i Gymru.