Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:50, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ail ateb i chi, sef fy mod yn meddwl bod mwy o gyfleoedd yn y sector economi carbon isel—neu sectorau, mewn gwirionedd. Felly, mae'r cydbwysedd—. Ni allaf roi ffigurau i chi. Yn sicr, bydd y prif economegydd sy'n cynghori holl Aelodau'r Llywodraeth wedi rhoi cyngor i ni y byddwn wedi'i ystyried. Nid wyf yn gwybod os yw'n sensitif yn fasnachol neu os oes unrhyw resymau eraill pam na chaf ei gyhoeddi, ond fe ymchwiliaf i hynny a rhoi gwybod i'r Aelod.