Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 19 Mehefin 2019

Diolch, Llywydd. Weinidog, byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru wedi bod yn ymgyrchu yn ddiwyd yn erbyn llwybr du yr M4, ac mi roeddem ni, wrth gwrs, yn croesawu'r penderfyniad, pan ddaeth e, i beidio bwrw ymlaen â'r cynllun penodol hwnnw. Roeddem ni'n teimlo y byddai gwario £1.5 biliwn o leiaf o gyllid cyfalaf ar greu mwy o draffig yn annoeth. Ond gan nad yw'r arian yna nawr yn mynd i gael ei wario i'r union ddiben hwnnw, gaf i ofyn pa achos rŷch chi yn ei wneud yn y Cabinet i'r pres gael ei ddefnyddio i gryfhau is-adeiledd gwyrdd yng Nghymru, i leihau allyriadau ac i daclo newid hinsawdd? Oherwydd mi fyddai £1.5 biliwn o bunnoedd, wrth gwrs, yn gallu, er enghraifft, trawsnewid y sector ynni adnewyddadwy yng Nghymru, ac mi fyddai gan hynny hefyd botensial i gynhyrchu incwm i’r pwrs cyhoeddus mewn blynyddoedd i ddod. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni ba achos rydych chi wedi ei wneud dros ddefnyddio’r cyllid cyfalaf yma at bwrpas amgen?