Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:44, 19 Mehefin 2019

Iawn. Wel, mi arhoswn ni eto i glywed unrhyw newidiadau penodol. Fe wnaf i awgrymu un peth ichi, efallai. Dwi’n cofio pan oedd y Llywodraeth ddiwethaf yn awyddus i wrthwynebu ffracio yng Nghymru. Doedd gan y Llywodraeth bryd hynny, wrth gwrs, ddim pwerau dros yr hawl i wrthod yn benodol, ond mi ddefnyddiwyd y system gynllunio, os cofiwch chi, fel ffordd i drio creu rhyw fath o foratoriwm. Nawr, roedd rhai ohonom ni'n anghytuno ei fod e'n foratoriwm mewn gwirionedd, ond awn ni ddim ar ôl yr sgwarnog yna. Ond yn sicr mi oedd yna ewyllys gan y Llywodraeth ddiwethaf, er nad oedd ganddi'r pwerau, i drio defnyddio'r hyn oedd ganddi i atal cynlluniau ffracio.

Nawr, byddwch chi'n ymwybodol o gais diweddar am brofion seismig ym mae Ceredigion, sy'n cael ei ddefnyddio, wrth gwrs, gan gwmnïoedd olew a nwy i ddod o hyd i'r lleoliadau gorau i ddrilio. Dyw hwnna ddim wedi ei ddatganoli; mae hwnna'n dal i fod yn gyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ond, wrth gwrs, gall trwyddedau ddim ond cael eu rhoi os yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cael eu boddhau. Felly, oni ddylai Llywodraeth Cymru ddatgan, yn yr un modd ag y gwnaethpwyd gyda ffracio a'r system gynllunio, na fyddai Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, yn bodloni i drwyddedu unrhyw gynlluniau tebyg yn y dyfodol fel neges glir i'r sector nad oes croeso iddyn nhw, oherwydd, wrth gwrs, y byddai hynny'n anghydnaws â'r argyfwng hinsawdd sydd gennym ni yng Nghymru, ac, wrth gwrs, dylem ni fod yn cadw tanwydd ffosil yn y ddaear?