Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 19 Mehefin 2019.
Wel, yn sicr, gwnaeth yr Is-Bennaeth o Tsieina y cyhoeddiad ynghylch agor y mewnforion cig eidion i Tsieina. Cefais drafodaeth gydag ef am gig oen hefyd, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn fod gennym y ddau'n mynd i mewn i Tsieina. Nid oeddwn wedi cael unrhyw drafodaethau'n uniongyrchol ag ef cyn ddoe neu heddiw; cyfarfûm ag ef eto y bore yma. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, yn sicr, fod y ddwy fferm yr aethom â'r ddirprwyaeth i ymweld â hwy yn frwd iawn fod y sgyrsiau hyn yn parhau a'n bod yn adeiladu yn awr ar y berthynas rydym eisoes wedi'i dechrau.