Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch. Yn sicr, rwy'n hapus iawn fod Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint wedi cynnal eu hwythnos. Mae hi hefyd—rwyf am roi hys-bys i hyn—yn Ddiwrnod Aer Glân yfory; credaf y dylai pob un feddwl am rywbeth y gallwn ei wneud i'w hyrwyddo. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £30 miliwn i awdurdodau lleol mewn perthynas â theithio llesol, ac yn sicr, rwy'n cymeradwyo cyngor Caerdydd. Credaf eu bod yn cyflwyno cynlluniau da iawn mewn perthynas â beicio, ac yn sicr, rwyf wedi gweld y cynghorwyr hynny'n gwibio o gwmpas y lle ar feiciau sawl tro.