Gwella Ansawdd Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:17, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £108 miliwn y flwyddyn i landlordiaid cymdeithasol ar ffurf y lwfans atgyweiriadau mawr i gynghorau a chyllid gwaddoli llenwi bwlch i gymdeithasau tai trosglwyddo gwirfoddol ar raddfa fawr. Mae hyn er mwyn sicrhau y bydd pawb sy'n byw yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol yng Nghymru yn byw mewn cartrefi o ansawdd da erbyn Rhagfyr 2020.