Gwella Ansawdd Tai

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 2:22, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ormod o dai o ansawdd gwael yng Nghymru, a llawer ohonynt yn gwneud defnydd aneffeithlon iawn o ynni, sy'n golygu bod y bobl dlotaf naill ai'n oer neu'n talu mwy am wresogi eu cartrefi na chi a fi. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella effeithlonrwydd ynni, yn enwedig yn y sector rhentu preifat a'r rhan gost isel iawn o'r sector rhentu preifat?