Tlodi Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:38, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio ar draws y Llywodraeth i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae fy nghyd-Aelod, Julie James, yn arwain adolygiad o raglenni cyllido Llywodraeth Cymru i sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi. Yn ogystal, bydd Lesley Griffiths yn eiriolwr dros dlodi yn ystod paratoadau'r gyllideb, i nodi cyfleoedd ar gyfer cynyddu effaith buddsoddi cyfunol.