Tlodi Plant

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 19 Mehefin 2019.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:41, 19 Mehefin 2019

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rwy'n synhwyro awgrym o eironi yng nghwestiwn yr Aelod gan nad yw'n sôn mewn gwirionedd am effaith cyni ar dlodi plant yng Nghymru a ledled y DU a sut y mae hynny wedi cael ei chwyddo'n sylweddol nid yn unig o ganlyniad i gyni ond y diwygiadau lles atchweliadol hefyd.

Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau i leihau, ac yn y pen draw, i ddileu tlodi plant nid yn unig drwy ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni ar draws y Llywodraeth, boed hynny drwy dai, addysg, iechyd, ond hefyd mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo ac mae gwaith yn mynd rhagddo ar ymrwymiad y Prif Weinidog i ad-drefnu rhaglenni cyllido Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf sy'n bosibl ar fywydau plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru.