Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 19 Mehefin 2019.
Nid wyf am wneud sylwadau ar y cais unigol; nid wyf yn gwybod unrhyw beth amdano beth bynnag. Hyd y gwn i, nid yw'n cael ei wneud o dan y drefn ar gyfer datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol, ond efallai ei fod. Nid wyf yn ymwybodol ohono, felly nid wyf am wneud sylwadau ar hynny.
Mae fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn cynnal adolygiad o'n strategaeth 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o ailedrych ar yr economi gylchol yng Nghymru. Ac yn ei dadl yr wythnos diwethaf, soniodd am y gwaith y byddwn yn ei wneud tuag at hynny. Yn sicr, bydd gwaredu unrhyw wastraff diwedd oes yn rhan o'r ailystyriaeth honno. Yn amlwg, ni fyddai gan economi gylchol unrhyw wastraff ynddi ac felly byddai llai a llai o angen gwaredu gwastraff terfynol o'r math hwnnw. Felly, byddwn yn ailedrych ar ein polisi 'Tuag at Ddyfodol Diwastraff', gyda'r bwriad o weithredu cymaint o economi gylchol yng Nghymru ag sy'n bosibl.