Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 19 Mehefin 2019.
Cytunaf â Bethan Sayed fod sefydliad, boed yn gorff ymreolaethol ai peidio, pan fo'n derbyn arian cyhoeddus, yn atebol i'r lle hwn, naill ai drwoch chi neu drwom ni yn uniongyrchol. Rwyf am eich holi ynglŷn â'r sylwadau a wnaethoch am y trafodaethau a gawsoch gyda CCAUC, oherwydd, mewn gwirionedd, credaf mai yma, fel Cynulliad, yw'r man lle gallwn fod yn gofyn rhai cwestiynau. Dywedoch nad oes ganddynt unrhyw bryderon am y prosesau a ddilynwyd gan Brifysgol Abertawe yn ystod y cyfnod brawychus hwn, ac roeddech yn fodlon derbyn eu gair ynghylch hynny. Wel, mae'r ffaith ein bod yn sefyll yma yn gofyn y cwestiwn hwn yn dangos y dylid pryderu rhywfaint am y prosesau hynny. Beth yn union a ddywedasant wrthych ynglŷn â'r hyn roeddent wedi'i wneud i fod yn fodlon â'r prosesau a ddilynwyd gan Abertawe? Oherwydd mae'n ddigon posibl mai'r cyfnod hwn o saith mis o oedi cyn cyflwyno'r cyfrifon yw'r unig beth y maent wedi'i wneud yn anghywir, ond buaswn yn synnu pe bai unrhyw un yn derbyn eu gair am hynny. Felly, efallai y gallwch roi rhagor o fanylion inni ynglŷn â hynny.
Dros y blynyddoedd diwethaf wrth gwrs, mae'r brifysgol wedi gwneud yn arbennig o dda o ran gwella ei statws a'i henw da ledled y byd, ac mae'r gwaith a wnaeth wedi creu argraff dda arnaf dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, yn 2016-17, roedd ei hincwm o ffynonellau myfyrwyr eisoes wedi dechrau gostwng, a gwnaeth hynny i mi feddwl tybed a oedd rhywfaint o'r newyddion drwg mwy diweddar, os mynnwch, wedi dechrau effeithio ar hyder yn y sefydliad. Felly, tybed a oes gennych unrhyw farn ar y mater hwn o hyder yn enw da'r brifysgol, yn enwedig gan ei bod yn chwarae rhan bwysig ym margen ddinesig bae Abertawe. Felly, mae hyn yn ymwneud â mwy na'r dysgwyr a'u dyfodol fel unigolion, gan nad arian myfyrwyr yn unig sy'n mynd i'r lle hwn ar hyn o bryd. Mae arian gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a'r sector preifat yn mynd i'r fargen ddinesig ar y sail fod hwn yn sefydliad gwych y gallant wneud busnes ag ef. Yn amlwg, nid ydym am danseilio hynny, felly efallai y gallwch roi ychydig o sicrwydd inni ar hynny o beth.
Ac yn olaf gennyf fi, mae'r brifysgol wedi datgan uchelgais i wneud buddsoddiad sylweddol yn ei hystâd a fydd yn dominyddu ei sefyllfa ariannol am y 10 mlynedd nesaf. Nawr, rydym yn sôn am fuddsoddiad hirdymor, yn enwedig o ran ystâd gyfalaf yma. Os felly, mae'r ffaith nad oes gennym adroddiad ariannol un flwyddyn wedi'i gyflwyno mewn pryd yn achos pryder yn y tymor hwy hefyd. Ac yna rwy'n dychwelyd at y cwestiwn cychwynnol hwnnw ynglŷn â beth yn union y gofynnoch chi i CCAUC, oherwydd os nad ydynt yn poeni am y cwestiwn ariannol penodol hwnnw, fe fuaswn i'n poeni. Diolch.