3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 19 Mehefin 2019.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag Allied Bakeries yng ngoleuni cyhoeddiad y cwmni y bydd yn atal y gwaith cynhyrchu yn ei safle yn y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, gan roi 180 o swyddi mewn perygl? 328
Wel, Lywydd, mae hwn yn amlwg yn newyddion siomedig iawn i'r cwmni a'i weithlu, ac rydym yn cydymdeimlo â'r teuluoedd a'r gweithwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn. Siaradodd swyddogion Llywodraeth Cymru â'r busnes ddoe ac maent yn barod i gefnogi'r holl staff yr effeithir arnynt drwy ein rhaglenni Cymru'n Gweithio, y Ganolfan Byd Gwaith, a'r ganolfan cyngor ar bopeth.
Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Fel y dywedoch, mae hwn yn newyddion siomedig iawn a dweud y lleiaf mewn ardal sydd wedi colli cryn dipyn o swyddi dros y blynyddoedd diwethaf: Barclays a Tesco, er enghraifft, a'r safle hwn bellach, sydd wedi bod yn fecws ers sawl degawd—nid blynyddoedd yn unig, ond sawl degawd. Mae'n gyhoeddiad sy'n dweud wrth gwrs eu bod yn bwriadu ad-drefnu'r safle a'i droi'n ganolfan ddosbarthu, felly bydd swyddi'n cael eu cadw os bydd y cynigion yn mynd drwy'r broses ymgynghori ac yn cael eu derbyn. Ond a allwch gadarnhau, Ddirprwy Weinidog, p'un a gafwyd unrhyw gysylltiad â Llywodraeth Cymru i weld a allai fod cefnogaeth ar gael i gadw capasiti gweithgynhyrchu yma? Hyd y gwelaf, mae'r capasiti gweithgynhyrchu yn symud i safleoedd eraill y mae'r cwmni'n berchen arnynt yn y DU.
Yn ail, o'r sgyrsiau hynny rydych wedi'u cael gyda'r cwmni—neu'r sgyrsiau y mae eich swyddogion wedi'u cael gyda'r cwmni—a yw'r cwmni wedi derbyn cynnig Llywodraeth Cymru i gefnogi gweithwyr yn ystod y cyfnod pontio hwn, sy'n destun ymgynghoriad, rwy'n cydnabod hynny, ac yn amlwg, mae'n rhaid cyflawni'r broses honno? Ond yn ôl y cyhoeddiad, ymddengys—yn anffodus, os yw'n digwydd—y bydd nifer sylweddol o swyddi'n cael eu colli, felly mae'n bwysig fod gweithwyr yn y ffatri yn deall yn iawn y bydd y gefnogaeth honno ar gael iddynt cyn gynted â phosibl, a bod y cwmni'n caniatáu mynediad at gymorth Llywodraeth Cymru, pe bai ei angen.
Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais, rydym yn rhannu siom Undeb y Pobyddion, Gweithwyr Bwyd a Gweithwyr Perthynol, sy'n siomedig iawn gyda'r newyddion hefyd. Hyd y gwelwn, mae hwn yn benderfyniad masnachol syml. Mae natur y farchnad ar gyfer bara wedi newid. Mae'r galw wedi lleihau wrth i ddeiet pobl newid ac mae pobl yn bwyta llai o fara. Mae'r cwmni, felly, yn awyddus i atgyfnerthu eu gwaith cynhyrchu ar safleoedd eraill i sicrhau bod eu holl unedau'n gwneud elw.
Rydym yn falch o leiaf eu bod yn mynd i gadw nifer sylweddol o swyddi ar y safle i'w droi yn ganolfan logisteg. Byddwn yn gweithio gyda'r cwmni, fel y soniais, drwy ein prosiectau Cymru'n Gweithio a'r Ganolfan Byd Gwaith i weld a allwn ddod o hyd i swyddi i'r rhai sy'n wynebu colli swyddi os yw'r ymgynghoriad, fel y dywedwch, yn parhau fel y disgwyliwn iddo wneud. Gan fod gennym sector datblygedig yn Llywodraeth Cymru ar fwyd a diod, rydym am weld beth y gallwn ei wneud i sicrhau swyddi eraill yn y sector presennol ar gyfer y bobl a allai gael eu diswyddo, er mwyn sicrhau nad yw'r sgiliau hynny'n cael eu colli o economi Cymru neu'r diwydiant.
Rwy'n bryderus iawn hefyd am y gweithwyr yn Allied Bakeries, lle bu traddodiad hir iawn o bobi ar y safle hwnnw, fel y clywsom, ac yn agos ato yn y rhan honno o Gaerdydd, ac rwy'n falch o glywed y Dirprwy Weinidog yn siarad am yr angen i ganolbwyntio ar y sgiliau sydd gan y gweithwyr yno. Er y byddai'n gadarnhaol pe bai swyddi'n cael eu cadw yno mewn canolfan ddosbarthu, nid yw hynny yr un fath â'r sgiliau sydd wedi'u datblygu dros flynyddoedd lawer ym maes pobi. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn.
Dyma'r newyddion drwg diweddaraf ar ôl llawer o achosion o golli swyddi a bygythiadau i swyddi yn ne-ddwyrain Cymru. Hyd yn oed yn y brifddinas, mae'n nifer sylweddol o swyddi. Mae'n rhaid ystyried y pwysau y mae'n ei roi ar allu'r Llywodraeth i ymdrin â'r cyhoeddiadau hyn gan amryw gwmnïau o safbwynt rhoi cynlluniau amrywiol ar waith, gweithio gyda'r Ganolfan Byd Gwaith, gweithio ar weithredu cynlluniau ReAct, ac yn y blaen. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y rhoddir ystyriaeth i ddarparu adnoddau ychwanegol a chynyddu'r capasiti yn Llywodraeth Cymru i ymdrin ag ergyd ar ôl ergyd, a sicrhau bod gweithwyr, lle bynnag yr effeithir arnynt yn economi Cymru, yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i chwilio am gyflogaeth newydd?
Yn sicr, cyhoeddasom ddoe yn y gyllideb atodol ein bod yn cynyddu adnoddau er mwyn gallu bod yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion newidiol yr economi wrth i ni ymdopi â chyfnod mwyfwy cythryblus. Ond yn sicr yn yr achos hwn, mater yw hwn o newid yn y farchnad yn unig. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd hon yn ffatri a oedd yn cynhyrchu bara. Nid oedd yn cynhyrchu cacennau eraill na chynhyrchion premiwm uwch. Fel y dywedodd y cwmni'n glir yn y dyfyniadau yn y wasg, fe wnaethant golli contract i gyflenwi bara i archfarchnad o dan eu label eu hunain, ac yn syml, mae'r galw'n newid, ac nid oes digon o waith i'r cwmni yn ei gyfanrwydd i gyfiawnhau cadw cymaint o ffatrïoedd sy'n cynhyrchu bara ar agor. Felly, ni chredaf fod llawer y gall y Llywodraeth ei wneud mewn sefyllfaoedd fel hynny. Dyma natur y farchnad. Fodd bynnag, mae pethau y gallwn eu gwneud i sicrhau, fel y dywedais, fod sgiliau gweithwyr Cymru yn cael eu hadleoli i sicrhau bod ein sector bwyd a diod yn parhau i fod yn fywiog ac yn hyfyw.