Part of the debate – Senedd Cymru am 3:35 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A dwi'n codi i symud y cynnig ar ddirymu'r rheoliadau gofal sylfaenol a'r Gymraeg. Mae'r sector gofal sylfaenol—deintyddion, optegwyr, fferyllwyr, a meddygon teulu—yn gyfrifol am hyd at 90 y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd, ac, yn wir, y man cychwyn i'r rhan fwyaf ar eu taith ar hyd y llwybr gofal. Dyma bobl ar eu mwyaf bregus, yn yr angen mwyaf, lle mae derbyn triniaeth yn y Gymraeg yn gallu bod yn hanfodol, megis yn achos pobl sydd efo dementia, neu blant ifanc nad ydyn nhw'n medru unrhyw iaith heblaw'r Gymraeg.
Addawodd y Llywodraeth yn y gwanwyn y llynedd, wrth eithrio darparwyr gofal sylfaenol o'r safonau ar gyfer gweddill y gwasanaeth iechyd, y byddai rheoliadau penodol er mwyn sicrhau hawliau i'r Gymraeg ym maes gofal sylfaenol drwy'r contractau gwasanaeth. Ond, rydym ni yma heddiw yn edrych ar reoliadau nad ydyn nhw'n rhoi dim un hawl statudol, na hyd yn oed hanner disgwyliad statudol, o dderbyn gwasanaethau wyneb yn wyneb yn y Gymraeg i gleifion. Ar y gorau, fe gawn ni, dros amser, ambell i arwydd Cymraeg newydd o ganlyniad i'r rheoliadau hyn. Does dim byd yma: dim hawliau, dim disgwyliad, dim newid.
Chwarter canrif ers pasio Deddf Iaith 1993, wyth mlynedd ers pasio Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a sefydlodd statws swyddogol i'r iaith, a saith mlynedd ers i'r Llywodraeth fabwysiadu 'Mwy na Geiriau', a oedd yn ei hymrwymo i gynnig gwasanaethau iechyd Cymraeg yn rhagweithiol, dyw'r rheoliadau pitw yma ddim hyd yn oed yn sicrhau'r pethau mwyaf sylfaenol â chofnodi angen iaith y claf—rhywbeth sy'n hanfodol er mwyn cynllunio gwasanaeth yn Gymraeg. Beth yw diben anogaeth? Hyd yn oed pe bai'r ewyllys, yr amser a'r adnoddau gan fyrddau iechyd i sicrhau bod anogaeth, dyw'r rheoliadau hyn ddim yn sicrhau bod cofnod. Dydy'r rheoliadau ddim yn sicrhau yr un hawl cyfreithadwy o werth. Ac nid ydyn nhw chwaith yn rhoi sicrwydd i wasanaeth Cymraeg, hyd yn oed pan fo hynny'n fater o angen clinigol. Mae hynny ynddo'i hun yn dangos pa mor ddiffygiol ydy'r rheoliadau yma, a pham bod angen eu dirymu a'u hail-lunio.
Ond ar ben hynny, mae'r Gweinidog wedi dangos yr un difaterwch at y Senedd hon, ac at ddemocratiaeth, wrth gyflwyno'r rheoliadau yma, ag y mae o yn ei ddangos at anghenion ieithyddol pobl mwyaf bregus cymdeithas o ran cynnwys y rheoliadau. Ni ddaeth i'r pwyllgor i ateb cwestiynau. Mae hyd yn oed wedi gwrthod cais fy nghyd-weithiwr Delyth Jewell, sy'n aelod o'r pwyllgor, i drafod y ffordd ymlaen cyn y ddadl heddiw. Cymaint yw ei ddifaterwch am y Gymraeg, doedd ei adran ddim hyd yn oed wedi trafferthu cyfieithu memorandwm esboniadol y rheoliadau hyn i'r Gymraeg adeg cyflwyno'r rheoliadau, er bod dim ond pump tudalen i gyd. Felly, wrth gyflwyno'r dyletswyddau iaith, mae'r adran wedi torri ei dyletswyddau iaith ei hun. Allech chi ddim gwneud y peth i fyny.
Ond beth sydd yn glir yw bod y Llywodraeth yn poeni am farn y proffesiwn. Yn wir, yr unig gyrff sy'n cael eu rhestru yn y memorandwm esboniadol fel cyrff a gafodd wrandawiad y Llywodraeth yw'r pump corff proffesiynol. Mae'n glir bod eu barn nhw yn bwysicach na chynrychiolwyr etholedig y lle hwn. Fe gawson nhw lawer iawn mwy na 21 diwrnod i ddweud eu dweud; yn wir, fe gawson nhw dros flwyddyn. Roedd yn rhaid i'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fynnu cynnal ymchwiliad byr iawn o fewn y 21 diwrnod a oedd gyda nhw, a saith o'r dyddiau hynny yn y toriad. Os nad yw Cadeirydd pwyllgor yn haeddu parch y Llywodraeth hon, pwy sydd? I bwy maen nhw'n atebol? Dyw hi ddim y ffordd i drin ein Senedd genedlaethol.
Yn lle trafodaeth agored, dryloyw, ar y materion hyn, er mwyn sicrhau'r gorau i gleifion a defnyddwyr y Gymraeg, mae gennym ni Lywodraeth sydd wedi gwneud popeth i osgoi atebolrwydd y Senedd hon am gynnwys y rheoliadau yma. Rydw i fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, a Chadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cwyno, ond dydych chi ddim yn gwrando. Mae'n ddamniol. Mae'r strategaethau, mae'r geiriau cynnes, wedi methu. Nid nawr yw'r amser am y camau cyntaf ac anogaeth; mae'n bryd am reoliadau llawer cadarnach i warchod ac ehangu hawliau i'r Gymraeg. Mae gan Aelodau'r Cynulliad gyfle i sicrhau hynny'r prynhawn yma drwy bleidleisio i ddirymu'r rheoliadau yma.