Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 19 Mehefin 2019.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy fynegi diolch, ar ran y Pwyllgor Deisebau, am y cyfle i agor y ddadl hon heddiw? Cyflwynodd Matthew Misiak y ddeiseb 'Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi' ar ran ymgyrch Extinction Rebellion. Denodd y ddeiseb hon 6,148 o lofnodion, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei chyflwyno heddiw o dan y broses lle rydym yn ystyried gofyn am ddadleuon ar ddeisebau sydd â mwy na 5,000 o lofnodion, a byddem ar fai pe na baem yn diolch i aelodau'r Pwyllgor Busnes am eu penderfyniad i weld y ddeiseb hon yn cael ei chyflwyno ar gyfer dadl.
Mae'n amlwg na all yr un Senedd na Llywodraeth anwybyddu brys yr her sy'n codi yn sgil newid hinsawdd. Ni allwn ni ychwaith fel gwleidyddion a llunwyr polisïau fethu cydnabod lefel pryder y cyhoedd yng nghyswllt hyn a materion amgylcheddol eraill fel bioamrywiaeth, llygredd plastig ac ansawdd aer. Caiff pob un o'r materion hyn eu codi'n fynych yn y Siambr hon a thrwy'r broses ddeisebu, a chaiff pob mater ei gynnwys yn y ddeiseb benodol hon. Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol iawn o'r brotest a'r ymgyrchu ehangach a drefnwyd gan fudiad Extinction Rebellion, ac sy'n ffurfio cefndir i'r ddeiseb hon.
Mae'r Pwyllgor Deisebau wedi nodi, wrth gwrs, fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ystod y cyfnod ers drafftio'r ddeiseb hon. Mewn datganiad a gyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2019, mynegodd Gweinidog yr amgylchedd ei gobaith y byddai'r datganiad yn
'helpu i sbarduno ton o weithredu yma ac yn rhyngwladol.'
Roedd y datganiad hefyd yn cydnabod bod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn galw am
'weithredu ar y cyd, ac mae gan y Llywodraeth ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth.'
Nawr, mae'r deisebwyr yn disgrifio hwn fel cam pwysig ac maent wedi llongyfarch Llywodraeth Cymru am fod ymhlith y Llywodraethau cyntaf yn y byd i gymryd y camau hyn. Mae nifer o awdurdodau lleol, trefi a dinasoedd ar draws Cymru wedi gwneud datganiadau tebyg hefyd, ac rwyf wrth fy modd fod fy awdurdod lleol fy hun wedi gwneud hynny. Felly, mae'n amlwg fod yna gydnabyddiaeth gynyddol o'r rôl sy'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ei chwarae wrth ymateb i her ar raddfa newid hinsawdd.
Fodd bynnag, ni cheir unrhyw ddiffiniad y cytunir arno'n gyffredinol o'r hyn y dylai datgan argyfwng hinsawdd ei olygu yn ymarferol, a pha gamau y dylid eu cymryd o ganlyniad i hynny. Felly, gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn helpu i daflu goleuni ar faint yr her honno, ac yn rhoi mwy o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ymarferol a fydd yn codi o ganlyniad i ddatganiad argyfwng Llywodraeth Cymru ei hun ar yr hinsawdd.
Yn wir, er bod y Pwyllgor Deisebau yn llwyr gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi gymryd y cam hwn, credwn hefyd fod y camau gweithredu neu'r newidiadau sy'n dilyn yn bwysicach na'r datganiad ei hun. Newid ymarferol yw'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod hyn yn llawer mwy na cham symbolaidd yn unig. Y tu hwnt i brif ddatganiad o argyfwng hinsawdd, mae'r ddeiseb hefyd yn argymell nifer o gamau y mae'r deisebwyr yn credu y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd. Symudaf ymlaen yn awr i roi amlinelliad bras o'r rhain yn eu tro.
Mae'r ddeiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei holl bolisïau'n gyson â'r bwriad o osgoi rhagor o newid hinsawdd a chwalfa ecolegol. Mae'r deisebwyr am weld cynlluniau gweithredu manwl yn cael eu cynhyrchu, gydag amserlenni ar gyfer gwneud cynnydd tuag at wneud Cymru yn wlad garbon niwtral. Maent yn amlygu Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol fel enghraifft dda o Gymru'n arwain ar ddatblygu polisi blaengar, ond yn dadlau hefyd nad yw'r Ddeddf hon ar ei phen ei hun yn symbylu'r Llywodraeth, yn ogystal â'r sectorau cyhoeddus a phreifat, i weithredu'n unol â'r brys y mae'r sefyllfa yn galw amdano. Mae'r deisebwyr yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud buddsoddiadau pellach yn natblygiad yr economi werdd, a phwysleisio'r cyfle i Gymru fod yn arweinydd ym maes technolegau gwyrdd.
Gan symud ymlaen, mae'r ddeiseb yn galw'n benodol ar Lywodraeth Cymru i roi mesurau polisi sy'n rhwymo mewn cyfraith mewn grym i leihau allyriadau carbon i sero net, nid erbyn 2050 ond erbyn 2025. Afraid dweud bod hon yn alwad hynod o heriol. Mae deddfwriaeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnwys targed i leihau allyriadau 80 y cant erbyn 2050, gyda thargedau interim ar gyfer y degawdau sy'n arwain at hynny. Ym mis Mai, argymhellodd adroddiad gan y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd y dylid targedu gostyngiad o 95 y cant erbyn 2050. Byddai hyn yn ffurfio rhan o fwriad i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU i sero net erbyn 2050. Fel y gŵyr yr Aelodau, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad hwn yn ffurfiol yr wythnos diwethaf, a bydd yn cyflwyno rheoliadau i ddiweddaru'r targed mewn deddfwriaeth. Fodd bynnag, dylwn nodi bod y deisebwyr wedi disgrifio terfyn amser 2050 fel un truenus o annigonol. Mae'r ddeiseb yn datgan—ac mae ymgyrch Extinction Rebellion wedi dweud yn hyglyw iawn—fod angen rhoi'r camau hyn ar y gweill erbyn 2025. Rwy'n siŵr y bydd cyflymder yr ymateb i heriau newid hinsawdd yn bwnc a gaiff ei drafod ymhellach y prynhawn yma.
Yn olaf, mae'r ddeiseb yn galw am sefydlu cynulliad dinasyddion i oruchwylio'r newidiadau sydd eu hangen. Mae'r deisebwyr yn dadlau y dylai dinasyddion Cymru allu helpu i ddatblygu a chraffu ar y polisïau a fydd yn sail i raddau'r newid sydd ei angen. Credant y bydd dull o weithredu o'r fath yn lleihau gwrthdaro buddiannau, ac yn cynorthwyo gwleidyddion i wneud penderfyniadau er lles hirdymor pawb. Unwaith eto, mae'r cynnig hwn yn rhywbeth y bydd yr Aelodau am ei ystyried yn ystod eu cyfraniadau y prynhawn yma o bosibl.
I gloi, mae'r Pwyllgor Deisebau yn cydnabod y camau pwysig y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd, yn anad dim drwy ei datganiad argyfwng hinsawdd a'r ymrwymiadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud. Serch hynny, mae angen i bob un ohonom barhau i graffu'n drwyadl ar y camau pendant sy'n rhaid eu cymryd, a rhaid i bawb ohonom gydweithio i ddatblygu atebion effeithiol a fydd yn gwireddu'r ymrwymiadau heriol hyn. Felly, edrychaf ymlaen at wrando ar weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.